{kowydd merch}
1 Doe ymherigl y kiglef
2 ynglyn avr angel o nef
3 ag adrodd pyngkiav godrist
4 ag adail gronn ag owdl grist
5 disgybl mab mair am dysgawdd
6 fal hynn y dywawd fawl hawdd
7 dafydd o beth difeddw bwyll
8 dy gymar gerdd dda gymwyll
9 dod ar awen dy enav
10 nawdd dvw ag na ddywaid av
11 nid oys o goyd trioyd trwch
12 na dail ond anwadalwch
13 paid a bod gann rianedd
14 kais er mair kassavr medd
15 ni thale ffayn gwyrdd gwydd
16 na thafarn eithyr iaith ofydd
17 myn y gwr a fedd heddiw
18 may gwayw im penn am wen wiw
19 Ag im tal may gofalglwy
20 am Avr o ddyn marw ddwy
Dauid ap Gwilim