I'r Angel ai cynghorawdd.
1 Doe ymherigl y ciglef
2 ynglyn aur angel o nef
3 Ac adrodd pynciau godrist
4 Ac adail gron ac owdl i Grist
5 Discybl Mab Mair am dyscawdd
6 fel hyn y dywawd fawl hawdd
7 Dafydd o beth di feddw bwyll
8 dy gymar gerdd da gymwyll
9 Dod ar awen dy enau
10 Nawdd Duw ac na ddywaid au
11 Nid oes o goed tri-oed trwch
12 Na dail ond anwadalwch
13 Paid a bod gan rianedd
14 Cais er Mair cashau'r medd
15 Ni thale ffaen gwyrdd-gaen gwydd
16 Na thafarn eithr iaith ddofydd.
17 Myn y gwr a fedd heddiw
18 mae gwaew i'm pen am wen wiw
19 Ac i'm tâl mae gofal-glwyf
20 Am aur o ddyn a marw ddwyf.
Dauid ap Gwilym.