G 3, 217r  
   Tud: 1
    I'r Angel ai cynghorawdd.
 
1    Doe ymherigl y ciglef
2    ynglyn aur angel o nef
3    Ac adrodd pynciau godrist
4    Ac adail gron ac owdl i Grist
5    Discybl Mab Mair am dyscawdd
6    fel hyn y dywawd fawl hawdd
7    Dafydd o beth di feddw bwyll
8    dy gymar gerdd da gymwyll
9    Dod ar awen dy enau
10    Nawdd Duw ac na ddywaid au
11    Nid oes o goed tri-oed trwch
12    Na dail ond anwadalwch
13    Paid a bod gan rianedd
14    Cais er Mair cashau'r medd
15    Ni thale ffaen gwyrdd-gaen gwŷdd
16    Na thafarn eithr iaith ddofydd.
17    Myn y gwr a fedd heddiw
18    mae gwaew i'm pen am wen wiw
19    Ac i'm tâl mae gofal-glwyf
20    Am aur o ddyn a marw ddwyf.
 
    Dauid ap Gwilym.