kow: kyngor ir Bardd gan vn or Brodur Llwydion
1 Dou mewn kor im kynghoref
2 ynlyn aur angel o nef
+1 wrth ganu araith gynnes
+2 oi fin gwell na gwin a ges
+3 parod frawd llwyd ymhob lle
+4 i gyngor doeth rhag ange
5 dysgybl mab Mair am dysgawdd
6 a hyn a ddyfod /n/ hawdd
7 Dafydd o beth difeddw bwyll
8 digymar gerdd da gymwyll
9 dod ar wen dy aur enau
10 nawdd duw ag na ddowaid au
11 nid oes o goed trioed trwch
12 na dail ond o wadalwch
13 [76] paid a bod gan rianedd
14 kais er Mair kassau /r/ medd
+5 mogel draws magal drasserch
+6 a mogel mwy magal merch
+7 gochel dafarn difarn don
+8 a gochel merched gwchion
+9 tri ffeth a bair y methu
+10 ir dyn ai dilyn oi du
+11 Gwin, merch drwch, a gwchder
+12 myn fenaid gwiw afraid ger
+13 Attebais pan gefais gwr
+14 er hyn eiriau yr henwr
+15 pa fodd gwel i gochela
+16 magl serch yr orddercha
+17 a minnau y gwr mwynaiaith
+18 ynddi /n/ gweiddi yn gaeth
17 myn y gwr a fedd heddiw
18 mae gwaw im pen am wen wiw
19 ag im tal mae gofalglwy
20 om aur o ddyn marw i ddwy
+19 ni cha ochlud hefyd hawl
+20 gan dauri y gwr durawl
+21 rhaid rhoi draw o daw hi o dal
+22 groisso i ddauliw /r/ grissial
+23 llenwi mewn gwindu lawen
+24 sywgr a gwin i ddyn segr wen
+25 os heibio i rho dan glo o gler
+26 gwasgwechdon gwisgo gwchder
+27 ni fyn Morfydd ddaurydd dda
+28 aulod main weled Monna
+29 [77] ni thal dy gyngor a forwyn
+30 garro i mi y gwr mwyn
Dafydd ap Gwilim ai kant