â â â Y Bardd a'r Brawd Llwyd
1â â â Gwae fi na wyr y forwyn
2â â â Glodfrys, a'i llys yn y llwyn,
3â â â Ymddiddan y brawd llygliw
4â â â Amdanai y dydd heddiw.
5â â â Mi a euthum at y Brawd
6â â â I gyffesu fy mhechawd.
7â â â Iddo 'dd addefais, od gwn,
8â â â Mae eilun prydydd oeddwn,
9â â â A'm bod erioed yn caru
10â â â Rhiain wynebwen aelddu,
11â â â Ac na bu ym o'm llawrudd
12â â â Les am unbennes na budd,
13â â â Ond ei charu'n hir wastad
14â â â A churio'n fawr o'i chariad,
15â â â A dwyn ei chlod drwy Gymru
16â â â A bod hebddi er hynny,
17â â â A damuno ei chlywed
18â â â I'm gwely rhof a'r pared.
19â â â Heb y Brawd wrthyf yna,
20â â â 'Mi a rown yt gyngor da.
21â â â O cheraist eiliw ewyn,
22â â â Lliw papir, oed hir hyd hyn,
23â â â Llaesa boen y dydd a ddaw,
24â â â Lles yw i'th enaid beidiaw,
25â â â A thewi â'r cywyddau
26â â â Ac arfer o'th baderau.
27â â â Nid er cywydd nac englyn
28â â â Y prynodd Duw enaid dyn.
29â â â Nid oes o'ch cerdd chwi, y glêr,
30â â â Ond truth a lleisiau ofer,
31â â â Ac annog gwyr a gwragedd
32â â â I bechod ac anwiredd.
33â â â Nid da'r moliant corfforawl
34â â â A ddyco'r enaid i ddiawl'.
35â â â Minnau atebais i'r Brawd
36â â â Am bob gair ar a ddywawd.
37â â â 'Nid ydyw Duw mor greulon
38â â â Ag y dywaid hen ddynion.
39â â â Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
40â â â Er caru gwraig na morwyn.
41â â â Tripheth a gerir trwy'r byd:
42â â â Gwraig a hinon ac iechyd.
43â â â Merch sydd decaf blodeuyn
44â â â Yn y nef ond Duw ei hun.
45â â â O wraig y ganed pob dyn
46â â â O'r holl bobloedd ond tridyn.
47â â â Ac am hynny nid rhyfedd
48â â â Caru merched a gwragedd.
49â â â 'O'r nef y cad pob digrifwch
50â â â Ac o uffern bob tristwch.
51â â â Cerdd a bair yn llawenach
52â â â Hen ac ieuanc, claf ac iach.
53â â â Cyn rheitied i mi brydu
54â â â Ag i tithau bregethu,
55â â â A chyn iawned ym glera
56â â â Ag i tithau gardota.
57â â â Pand englynion ac odlau
58â â â Yw'r hymner a'r segwensiau,
59â â â A chywyddau i Dduw lwyd
60â â â Yw llaswyr Dafydd Broffwyd?
61â â â 'Nid â'r un bwyd ac enllyn
62â â â Y mae Duw'n porthi pob dyn.
63â â â Amser a osoded i fwyd
64â â â Ac amser i olochwyd,
65â â â Ac amser i bregethu
66â â â Ac amser i gyfanheddu.
67â â â Cerdd a genir ym mhob gwledd
68â â â I ddiddanu rhianedd,
69â â â A phader yn yr eglwys
70â â â I geisio tir Paradwys.
71â â â 'Gwir a ddywad Ystudfach
72â â â Gyda'i feirdd yn cyfeddach,
73â â â "Wyneb llawen llawn ei dy,
74â â â Wyneb trist drwg a ery".
75â â â Cyd caro rhai sancteiddrwydd
76â â â Eraill a gâr gyfanheddrwydd.
77â â â Anaml a wyr gywydd pêr
78â â â A phawb a wyr ei bader.
79â â â Ac am hynny, 'r deddfol Frawd,
80â â â Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.
81â â â 'Pan fo cystal gan bob dyn
82â â â Glywed pader gan delyn
83â â â Â chan forynion Gwynedd
84â â â Glywed cywydd o faswedd
85â â â Mi a ganaf, myn fy llaw,
86â â â Y pader fyth heb beidiaw.
87â â â Hyd hynny mefl i Ddafydd
88â â â O chân bader ond cywydd'.