Y Bardd a'r Brawd Llwyd
Gresyn i mi nad yw'r forwyn y mae ei chlod yn teithio ar
wib,
un y mae ei llys yn y llwyn,
yn gwybod am yr hyn a oedd gan y Brawd llwyd-fel-llygoden
4 i'w ddweud amdani heddiw.
Euthum at y Brawd
i gyffesu fy mhechod.
Addefais wrtho mai crach-fardd oeddwn,
8 a gwn hynny yn burion,
a'm bod ers tro byd yn caru
lodes a [chroen] ei hwyneb yn wyn a'i haeliau yn dduon,
ac na ddaeth i'm rhan yn sgil fy llofruddiaeth
12 les na budd gyda golwg ar yr arglwyddes,
ac eithrio ei charu yn ffyddlon dros ysbaid hir
a dioddef yn helaeth oherwydd fy serch ati,
a chludo ei chlodydd trwy Gymru
16 a bod hebddi er hyn oll,
a dymuno ei theimlo
yn fy ngwely rhyngof a'r pared.
Yna dywedodd y Brawd wrthyf,
20 'Rhoddwn i ti gyngor pwrpasol [pe dymunit].
Os ceraist ffurf ewyn [y don]
[a] lliw papur am ysbaid hir hyd yma,
esmwythâ boenau'r dydd a ddaw,
24 byddai'n fuddiol i'th enaid [pe bait yn] ymatal,
a [phe bait] yn rhoi taw ar [dy] gywyddau
a [phe bait] yn troi at dy baderau.
Nid er mwyn cywydd nac englyn
28 y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o blith eich caniadau chwi, y glêr,
ond baldordd a swn ofer,
ac annog gwyr a gwragedd
32 i bechu ac i ddweud anwiredd.
Nid peth llesol yw'r caniadau mawl i bethau cnawdol
a fydd yn dwyn yr enaid i feddiant y diafol'.
Rhoddais ateb i'r Brawd
36 [gan ateb] pob un o'i ddadleuon.
'Nid yw Duw mor greulon
ag y dywed hen ddynion.
Ni fydd Duw yn [peri] colli enaid dyn hynaws
40 am iddo garu gwraig na morwyn.
Y mae pawb trwy'r byd yn gyfan yn caru tri pheth:
gwraig a thywydd braf ac iechyd.
Merch yw'r tlws harddaf oll
44 yn y nefoedd ac eithrio Duw ei hun.
Ac eithrio tri ganed pob dyn
trwy'r byd oll o wraig.
Ac o'r herwydd nid yw'n beth rhyfedd
48 [fod dynion] yn caru merched a gwragedd.
'O'r nefoedd y daeth pob llawenydd
ac o uffern [y daeth] pob tristwch.
Bydd caniadau yn gwneud
52 hen ac ieuanc, claf ac iach yn fwy llawen.
Y mae mor briodol i mi ganu
ag ydyw i tithau bregethu,
a'r un mor gyfiawn i mi glera
56 ag ydyw i tithau gardota.
Onid englynion ac awdlau
yw cynnwys y llyfr emynau a'r segwensiau,
ac [onid] cywyddau i Dduw sanctaidd
60 yw salmau'r proffwyd Dafydd?
'Nid yw Duw yn porthi pob dyn
â'r un bwyd ac â'r un danteithion.
Rhoddwyd amser i fwyta
64 ac amser i weddïo,
ac amser i bregethu
ac amser i ymlawenhau.
Cenir cerddi ym mhob gwledd
68 i ddiddanu'r merched
a [chenir] pader yn yr eglwys
er mwyn ceisio sicrhau lle yn y nefoedd.
'Gwir yw'r hyn a ddywedodd Ystudfach
72 [ac yntau] yn gwledda yng nghwmni ei feirdd:
"Llawn fydd cartref y gwr llawen
a gofidiau a ddaw i ran yr un â'r wyneb llaes".
Er bod rhai yn tynnu at dduwioldeb
76 y mae eraill yn caru llawenydd.
Rhai yn unig sy'n medru llunio cywydd swynol
ond gall pob un adrodd ei bader.
Ac oherwydd hynny, y Brawd sy'n glynu wrth lythyren y
ddeddf,
80 nid cerdd yw'r pechod mwyaf.
'Pan fydd pob un cyn baroted
i wrando ar gerdd dduwiol i gyfeiliant telyn
ag y mae morynion Gwynedd [yn awr]
84 i wrando ar gywydd sy'n llawn digrifwch,
ar fy llw, fe wnaf ganu
cerddi duwiol yn ddiymatal.
Yn y cyfamser mwyaf cywilydd i mi, Dafydd,
88 os canaf gerdd dduwiol; cywydd yn hytrach [a ganaf]'.