GDG 137; SPDG cerdd 43
Dyma'r hwyaf o'r tair cerdd ymddiddan a fu rhwng Dafydd a'r brodyr crwydrol. A barnu wrth y disgrifiad y brawd llygliw yn ll. 3, ag aelod o Urdd San Ffransis y bu'r bardd yn dal pen rheswm. Sgwrs rhwng Dafydd ag un o'r brodyr duon, sef un o'r Dominicaniaid, a gofnodir yn y gerdd sy'n dilyn. Cerdd ar fesur y traethodl yw hon ond nid oedd pob copïwr, fe ymddengys, yn gyfarwydd â phedwar mesur ar hugain Einion Offeiriad; barnai'r sawl a luniodd y penawdau yn H 26 mai awdl gywydd oedd y gerdd a chynigiwyd yn BL 14902 mai ar fesur y [cywydd] deuair fyrion y lluniwyd hi. Y mae'r iaith yn syml a phrin iawn yw'r cyfansoddeiriau. Cynnwys chwech o'r llinellau gynghanedd reolaidd (ond gw. y nodyn ar l. 22) ac er bod ambell eithriad saith sillaf sydd ym mhob llinell (ond gw. y nodyn ar l. 49).
Ar ddechrau'r traethodl ceir Dafydd yn cyffesu wrth y brawd iddo fod yn caru merch brydferth na chaiff ei henwi ond na ddaeth iddo unrhyw elw o wneud hynny er iddo, yn rhinwedd ei swydd fel bardd, beri bod ei chlod yn mynd ar led i bob cwr o Gymru. Cyngor y brawd yw y dylai Dafydd er lles ei enaid ymwrthod â gwrthrych ei serch ac â'i ganu a meddwl yn hytrach am ei ddiwedd ac am gyflwr ei enaid. Neilltuir 16 llinell ar gyfer y cyngor, sef rhyw bumed ran o'r gerdd. Dafydd sy'n cael y gair olaf ac y mae ei ymateb, a'i ymgais i gyfiawnhau ei hoffter o'r merched a'i alwedigaeth farddol, yn cael ei gyflwyno yn glir a threfnus mewn cyfres o ddadleuon yn y 46 llinell sy'n dilyn.
Y mae a wnelo'r ddadl gyntaf â threfn naturiol pethau. Myn Dafydd fod pob gŵr trwy'r byd yn caru merched. Awgrymir bod merched, fel Mair Forwyn, yn brydferth, ac felly yn wrthrychau teilwng i'w caru. Merch yw mam pob gŵr ac y mae hynny eto yn cyfrif am serch dynion at ferched (llau. 37–48). Gwelir nad yw Dafydd yn gwneud môr a mynydd o gyngor y brawd y dylai ymwrthod â merched. Wedi'r cwbl, myn Dafydd yr hawl i garu merched ieuainc dibriod a gwragedd priod yn ddiwahân a diau ei fod ar dir cadarnach wrth iddo droi at bwnc arall ac wrth iddo geisio cyfiawnhau'r arfer o brydyddu. Â hynny y mae a wnelo'r ddwy ddadl sy'n dilyn. Yn y lle cyntaf cynigir dadl ddiwinyddol (llau. 49–60). Y nefoedd yw man cychwyn pob llawenydd yn ôl Dafydd a chan fod ei ganu yn foddion llawenydd, deil mai o'r nefoedd y daw ei ysbrydoliaeth. Deil ymhellach mai barddoniaeth yw'r cyfryngau addoli yn yr eglwys ac nad yw barddoni o'r herwydd yn weithred bechadurus. Dadl ysgrythurol sy'n dilyn wrth i Ddafydd ddyfynnu geiriau'r Pregethwr a fynnai fod 'amser i bob peth, ac amser i bob amcan, dan y nefoedd' (llau. 61–80) er ei fod, cyn y diwedd, yn dychwelyd at bwysigrwydd y llawenydd y mae'r bardd yn ei gynnig yn rhinwedd ei swydd.
Trafodir canu Dafydd i'r brodyr yn Morgan Thomas Davies, 'Dafydd ap Gwilym and the friars: the poetics of antimendicancy', SC xxix (1995), 237–55. Ymdrinia D J Bowen â thri chwpled yn benodol yn ei drafodaeth yntau yn LlC 10 (1968–9), 115–18, sef llau. 9–10, 43–4, 57–8.
Er bod y gerdd yn un hir o'i chymharu â cherddi eraill Dafydd prin yw'r amrywio o ran trefn y cwpledi ac eithrio mewn dau destun y mae perthynas glos rhyngddynt, sef C 19 a BL 14966. Collwyd dau gwpled yn y ddau destun hyn a chollwyd rhai llinellau hefyd yn BL 14902 ac mewn dau destun arall sy'n rhannu'r un gynsail, sef BM 30 a BL 14979 (collwyd yr un llinellau yn y naill a'r llall ond collwyd hefyd mewn un linellau a ddiogelwyd yn y llall, ac vice versa). Fodd bynnag nid yw trefn y cwpledi yn wahanol yn BL 14902, BM 30 a BL 14979. Nid oes gwahaniaethau o bwys rhwng yr amryfal destunau gyda golwg ar y darlleniadau unigol er bod rhai olion trosglwyddo llafar yma a thraw. Rhiain wynebwen aelddu yw gwrthrych serch y bardd yn ôl y rhan fwyaf o'r copïau ond fe'i disgrifir hefyd yn Rhiain wynebwen dalddu (BM 30), yn Rhiain fynyglwen aelddu (LlGC 17113, BL 14902) ac yn Rhiain aelfain lygeitu (BL 14979). Y mae perthynas glos rhwng y testunau sy'n tarddu yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol o'r Vetustus a rhyngddynt hwy a Pen 76 (er bod un cwpled yn eisiau yn yr olaf). Y mae perthynas glos rhwng y rhain drachefn a BM 31, BM 34, C 7 a LlGC 6499. Fodd bynnag cynnwys y dosbarth hwn ddau gwpled ar ddiwedd y gerdd lle y mae'r bardd a'r brawd yn enllibio ei gilydd. Nid ymddengys fod y testunau yn Ba 5946, BL 15006, CM 125, CM 200, a LlGC 832—lluniwyd y rhain yn y 18g a'r 19g—yn gopïau ffyddlon o ddeunydd cynharach hysbys.
4. amdanai Ffurf 3 un.ben. yr arddodiad am, gw. GMW 58. Dyma'r ffurf a gopïwyd yn H 26 a Ll 120 ond nis cofnodwyd yn Amrywiadau GDG.
11. llawrudd Ffurf amrywiol ar llofrudd, gw. GPC 2200–1. Mabwysiadwyd y ffurf llofrudd yn GDG ond y mae tystiolaeth y llsgrau. yn gadarn o blaid llawrudd (er na chydnabyddir hynny yn yr Amrywiadau). Rhoddwyd iddo'r ystyr gyfoes 'y sawl sy'n llofruddio' yn nhrosiad Rachel Bromwich er na ddisgwylid defnyddio'r arddodiad o yn y cyswllt hwn ond dyfynnir y cwpled yn GPC er mwyn enghreifftio'r ystyron 'llofruddiaeth, lladdiad' a diau mai dyma'r ystyr fwyaf addas. Da fyddai gallu cyfiawnhau mabwysiadu'r ffurf llathrudd 'uniad rhwng gŵr a gwraig, hudiad, deniad trwy dwyll', gw. GPC 2103, ond nid oes awgrym yn y llsgrau. mai hon oedd y ffurf y dymunid ei chyfleu.
17. damuno Ffurf amrywiol ar dymuno, gw. GPC 1139. Dyma'r ffurf a gofnodwyd yn H 26, Ll 120, Pen 49 a C 49 (ond gwrthg. Amrywiadau GDG).
19. heb Ar y ffurf, gw. GMW 154; G 770. Dyma'r ffurf a gofnodwyd yn y rhan fwyaf o'r llsgrau. er na chydnabyddir hynny yn Amrywiadau GDG.
22. lliw papir Cofnodir y ffurfiau papur a papir yn GPC 2682. Yn Pen 49 yn unig o blith y llsgrau. cynharaf y digwydd yr ail ond fe'i mabwysiadwyd yn GDG ac yn y testun hwn am ei bod yn odli â hir ac felly yn rhoi llinell o gynghanedd sain. Cynigiodd Gwyn Thomas mewn nodyn yn B xxviii (1978–80), 404–5 mai yn goeglyd y defnyddia'r brawd drosiad y papur yn y fan hon gan fod papur, yn wahanol i ewyn y don, eiliw ewyn ll. 21, yn colli ei ddisgleirdeb. 'Cymhariaeth sy'n bwrw sen yn hytrach nag yn canmol yw 'lliw papir'', meddai. Mynnai Andrew Breeze ar y llaw arall, gw. B xxx (1982–3), 276, mai arwydd o ysblander oedd papur yn yr Oesoedd Canol gan ei fod yn ddrud ac yn brin. Cytuna Morgan Thomas Davies, op.cit., 243 (troednodyn) mai disgrifiad cadarnhaol a gynigir yn y gerdd. Am enghraifft arall o'r ddelwedd cf. GGM iii 5.113 Trafnidr tost gwingost gwengaer bapir.
40. gwraig na morwyn Gan fod y ddau enw yn cael eu cyfosod gellir bod yn bur sicr mai at wraig briod ac at wyryf ddibriod y mae Dafydd yn cyfeirio, a chais y bardd gyfiawnhau caru'r naill fel y llall. Cf. GDG 48.2–6 Pla ar ferched y plwyf! / Am na chefais...Na morwyn fwyn ofynaig / Na merch fach, na gwrach, na gwraig.
41–2. Ymdebyga'r geiriau i driawd. 'Tybed ai Dafydd a'i creodd yn y fan a'r lle er mwyn synnu'r Brawd Llwyd â dyfnder ei ddysg 'draddodiadol''? (Gruffydd 1985: 176–7).
46. tridyn Gw. DGG 212 lle y cynigir mai Adda, Efa a Melchisedec oedd y tri hynny. Dywedir am yr olaf yn Hebreaid 7.3 'Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd', a gw. ymhellach ODCC 1067.
49. Y mae'r rhan fwyaf o'r testunau yn cynnig pob digrifwch (hepgorwyd pob yn GDG ac unwaith eto y mae'r Amrywiadau yn hynod o gyfeiliornus) a mabwysiadwyd y darlleniad hwnnw er bod wyth sillaf yn y llinell o ganlyniad. Er bod hyd y llinellau yn rheolaidd gwelir bod dyrnaid o linellau wythsillaf yn y traethodl. Hawdd cywasgu llau. 63 (sylwer bod rhai llsgrau. yn cynnig y ffurf rhodded), 66 a 76 yn llau. seithsill ond y mae lle i gredu nad oedd gofynion y traethodl mor haearnaidd â'r cywydd a bod peth amrywio yn hyd y llau. Anodd bod yn sicr gan fod cyn lleied o gerddi ar y mesur wedi eu diogelu, gw. Gwyn Thomas, 'Dau fater yn ymwneud â Dafydd ap Gwilym', Y Traethodydd 143 (1988), 99–105.
57–60. Geilw D J Bowen, op.cit., sylw at y modd y dosberthir mesurau'r beirdd yng Ngramadeg Einion Offeiriad, gw. GP 6 Teir keing ereill a berthynant ar brydydyaeth: eglynyon, ac odleu, a chywydeu, ac at y modd y ceisiodd Dafydd ddosbarthu caniadau'r gwŷr eglwysig yn dair cainc gyfochrog, sef emynau (neu gynnwys yr hymner, gw. isod), segwensiau a salmau.
58. hymner Dyma'r ffurf a gofnodwyd yn H 26, C 7, C 49, BM 31 a Pen 76. Nis cofnodir yn GPC a diau i rai o'r copïwyr wrthod y ffurf ddieithr a derbyn y gair mwy cyfarwydd hymnau er na cheir trwy gydol y traethodl odl rhwng gair yng nghanol y llinell a gair yn safle'r brifodl. Benthyciad o'r S. hymner 'a book of hymns; a hymnal or hymnary', gw. OED vii:550, yw'r gair Cymraeg; buasai'r S. yn gyfarwydd er y 10g.
segwensiau Alawon oedd y segwensiau yn wreiddiol; yr oeddent yn rhan o'r offeren ac fe'u datgenid ar achlysuron penodol. Yna lluniwyd geiriau i gyd-fynd â hwy a buasent yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, gw. ODCC 1484.
60. llaswyr 'Llyfr y Salmau, yn enw. y Salmau wedi eu trefnu ar gyfer gwasanaeth neu ddefosiwn beunyddiol', gw. GPC 2099. Unwaith eto y mae tystiolaeth y llsgrau. cynharaf yn gadarn o blaid y ffurf hon. Mewn copïau pur ddiweddar y digwydd sallwyr a fabwysiadwyd yn GDG. Ar y ffurf honno, gw. GPC 3174. Daw o'r Lladin psalterium a chafwyd llaswyr trwy drawsosodiad.
63–6. Diau fod yma adlais bwriadol o bennod 3 yn Llyfr y Pregethwyr sy'n dechrau â'r adnod 'Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan, dan y nefoedd'.
71. Ystudfach Ymddengys fod chwedlau amdano yn hysbys gynt a'i fod yn cael ei ystyried yn ŵr a hynodid ar gyfrif ei ddoethineb, gw. WCD 649 a sylw William Salesbury yn rhagymadrodd Oll Synnwyr Pen (1547): 'Pop oes a adawodd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddiscipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedig ac yn gymen', gw. Garfield H Hughes, Rhagymadroddion 1547–1659 (Caerdydd, 1967), 14–15.
73–4. Cf. A glyweisti a gant gwrhy. bit lawen pawb yn y dy. wyneb trist crist a ery, gw. Ifor Williams, T H Parry-Williams, 'Englynion y Clyweit', B iii (1926–7), 4–21 (t. 13).
84. maswedd Diau mai 'miri, llawenydd, digrifwch, ysgafnder' sy'n taro orau yma yn hytrach na 'gwagedd, oferedd, serthedd, anlladrwydd', gw. GPC 2373, ond efallai fod y bardd yn chwarae ar y ddwy ystyr sydd yn ymhlyg yn y gair.
85. myn fy llaw Ar yr ymadrodd hwn gw. 120.12n.
87. mefl Yr un llw yn union sydd gan Ddafydd wrth iddo ymwrthod â chyngor y brawd du yn y cywydd sy'n dilyn.
88. Cynnwys y testun a ddiogelwyd mewn tair llsgr. gynnar, sef C 7, BM 31 a BM 34 (ac mewn llsgrau. diweddarach sy'n rhannu'r un gynsail) ddau gwpled ac yn y ddau hynny clywir y ddau lefarwr yn enllibio ei gilydd fesul llinell. Ychwanegwyd dau gwpled ar ddiwedd y testun yn H 26, un yn gwbl wahanol ac un yn amrywiad ar un o gwpledi'r llsgrau. uchod. Ychwanegwyd y ddau hynny ar ddiwedd Bl e 1 drachefn ond fe'u hymgorfforwyd yn nhestun M 212 ynghyd ag un cwpled newydd fel petaent yn rhan anhepgor o'r traethodl. Cynnwys BL 14902 gwpled gwahanol eto ond dwy linell a roddir yng ngenau'r Brawd yw cynnwys y cwpled hwn. Nid ymddengys fod y llau. hyn yn rhan o'r ddadl a gyflwynir yn y traethodl ond diau iddynt gael eu cynnwys ar ddiwedd y gerdd gan eu bod yn cynnwys ymddiddan rhwng rhyw fardd a Brawd Du.