Cyffes Davyd ap Gwilim
1 Gwae fi na wydde r forwyn
2 glodforys or llys ar llwyn
3 ymddiddan y brawd gwiw
4 a myfi y dydd heddiw
5 myfi a eithim at y brawd
6 i gyffesv fy mhechawd
7 addefais iddo hyd i gwn
8 mae evlyn prydydd oeddwn
9 am bod yr ioed yn carv
10 rhiain wynebwen aelddv
11 ag nad oedd ym om llowydd
12 lles gan vn benes na bydd
13 ond i charv yn hir wastad
14 a chirio n fawr oi chariad
15 a dwyn i chlod drwy Gymrv
16 a bod hebddi er hyny
17 a dymvn i chlowed
18 im gwely rhyngo r pared
19 heb y brawd wrthi yna
20 mi rown it gyngor iowndda
21 [36r] o cheraist di liw r ewyn
22 a lliwr piod ar dy goryn
23 llai sydd o boen ddydd a ddaw
24 lles ith enaid di beidiaw
25 a thewi ar cywyddav
26 ath ag arfer ath baderav
27 nid er cowydd ag englyn
28 i prynodd dvw enaid dyn
29 nid oes och gerdd chwi y gler
30 ond tryth a geirie ofer
31 ag anog gwyr a gwragedd
32 i bechod ag anwiredd
33 nid da moliant corfforawl
34 a ddwg yr enaid i ddiawl
35 mine atebais y brawd
36 am bob gair ar y ddyfawd
37 nid ydyw dvw mor grevlon
38 ag i dowyd yr hen ddynion
39 ni chyll dvw enaid dyn mwyn
40 er carv gwraig ne forwyn
41 tri ffeth a gerir drwy r byd
42 gwraig anhion ag iechyd
43 merch sy deca blodevvn
44 yn y nef ond dvw i hvn
45 o wraig i ganed pob dyn
46 yr holl fyd ond dav ddyn
47 ag am hyny nid rhyfedd
48 garv merched a gwragedd
49 [36v] or nef i cad pob dygrifwch
50 ag o vffern pob tristwch
51 cerdd a pair yn llawenach
52 hen ag ifangc claf ag iach
59 pam ond cywydd i ddvw lwyd
60 oedd laswyr Davyd broffwyd
61 nid ar fwydydd ag enllyn
62 i mae dvw yn porthi dyn
63 amser sydd i fwyd
64 amser i lochwyd
65 amser i brydyddv
66 amser i bregethv
55 mae cyn rhydded ini glera
56 ag i tithe gerdota
53 cyn rhydded ini brydyddv
54 ag i tithe bregethv
67 cerdd a ganer ymhob gwledd
68 i ddiddanv gwyr a gwragedd
69 a ffader yn yr eglwys
70 i geisio tir paradwys
71 gwir a ddyfod ystydfach
72 gidai feirdd ynghyfeddach
73 wyneb llawen llawn i dvy
74 wyneb trist drwg a dry
75 cyd i car rhai sancteiddrwydd
76 eraill a gar gyfanneddrwydd
79 ag am hyny ddeddfol frawd
80 nid cerdd sydd fwya o bechawd
81 [37r] pan fo gysdal gan bob dyn
82 glowed pader gida thelyn
83 a chen forynion Gwynedd
84 glowed cowydd o faswedd
85 mine a ganaf ar fy llaw
86 fymhader byth heb peidiaw
87 hyd hyny mefl i ddafydd
88 o chan can bader o flaen cywydd
Davyd ap Gwilim ai Cant
Nodiadau
Ar ochr y ddalen:
dos di i boenav vffernawl
dos dithev frawd i law diawl