{Owdl gowydd ir yffeiriad}
1 Gwae vi na wyr y vorwyn
2 glodurys ai llys yn y llwyn
3 ymddiddan y brawd llygliw
4 am danai y dydd eddiw
5 mi a euthvm at y brawd
6 i gyfessu vymhechawd
7 iddo ddaddefais od gwnn
8 may eulvn prydydd oeddwn
9 am bod erioed yn caru
10 rhiain wynebwen aelddu
11 ac na bu ym om llowrudd
12 les am vn benes na budd
13 ond icharu'n hir wastad
14 achurio'n vawr oi chariad
15 a dwyn ichlod drwy Gymry
16 a bod hebddi er hynny
17 adamvno i chlywed
18 i'm gwely rhof ar pared
19 heb y brawd wrthyf yna
20 mi a rown yt gyngor da
21 o cheraist eilw ewyn
22 lliw papyr oed hir hyd hynn
23 llaesa boen y dydd a ddaw
24 lles yw ith enaid beidiaw
25 athewi a'r cywyddae
26 ac arver oth baderae
27 nid er cywydd nag englyn
28 i prynnodd Duw enaid dyn
29 nid oes och cerdd chwi'r gler
30 ond druth a lleisiae over
31 [389] Ac annog gwyr a gwragedd
32 i bechod ac enwiredd
33 nid da'r moliant corphorawl
34 a ddyco'r enaid i ddiawl
35 minau atebais i'r brawd
36 am bob gair ar a ddywawd
37 nid ydyw Duw mor greulon
38 ac y dywaid hen ddynion
39 ni chyll Duw enaid gwr mwyn
40 er caru gwraig na morwyn
41 tri pheth a gerir drwy'r byd
42 merch gwraig a hinon ac iechyd
43 merch sydd decaf blodevn
44 yn y nef ond Duw ehvn
45 o wraig y ganed pob dyn
46 or oll bobloedd ond tridyn
47 ac am hyny nid rhyvedd
48 caru merched a gwragedd
49 or nef y cad pob digrifwch
50 ac o ufern pob tristwch
51 cerdd a bair yn llawenach
52 hen ac ivanc claf ac iach
53 cyn rheidied imi brydu
54 ac i tithau bregethu
55 a chyn iowned ym glera
56 ac i thithau gardota
57 pand englynion ac odlae
58 yw'r Hymner ar Sequensiae
59 a chywyddae i Dduw lwyd
60 yw llaswyr Dauydd Brophwyd
61 nid ar vn bwyd ac enllyn
62 y mae Duw'n porthi pob dyn
63 amser osoded i vwyd
64 ac amser i olochwyd
65 [390]ac amser ibregethu
66 amser i gyfanheddu
67 cerdd a genir ym hob gwledd
68 i ddiddanv rhianedd
69 a phader yn yr eglwys
70 igeisio tir paradwys
71 gwir a ddywod ystudvach
72 gyd ai veirdd yn cyfeddach
73 wyneb llawen llawn i du
74 wyneb trist drwg a ery
75 cyd caro rhai santeiddrwydd
76 eraill a gar gyfanheddrwydd
77 anaml a wyr gywydd per
78 a phawb a wyr i Bader
79 ac am hyny'r deddfawl vrawd
80 nid cerdd sydd vwya pechawd
81 pan vo cystal gan bob dyn
82 glywed pader gan delyn
83 a chan Vorynion Gwynedd
84 glywed cywydd o vaswedd
85 mi a ganaf myn vy llaw
86 y Pader vyth heb peidiaw
87 hyd hyny mefl o Ddauydd
88 o chan Bader ond cywydd
89 {dos dir ir byd ath gywyddae
90 dos dithau ffwrdd ir poenae
91 dos di ir tan tragwyddawl
92 dos dithau vrawd yn llaw ddiawl}
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
Copïwyd y ll. hon ar waelod 389 ond anodd gwybod a ystyrid
hi yn rhan o'r testun ai peidio: ac angau i oledryd