1 gway fi nawyr y vorwyn
2 glodvrys ai llys yn y llwyn
3 ymddi[dd]an y brawd llwyd llygliw
4 am da y dyddeddiw
5 mi aevthym at y brawd
6 i gvffessv vymhechawd
7 i ddo i yddefais od gwn
8 may evlyn prvdydd oyddwn
9 am bod yn arver o garv
10 rriain wynebwen aylddv
11 ac na by ym om llowrydd
12 les am vn bennes na bvdd
15 [145] a dwyn i chlod drwy gymrv
16 a bod hebddi er hynny
17 a damyno i chlowed
18 im gwely rrof ar pared
19 heb y brawd wrthv ynaf
20 mi a rown yt gyngor daf
21 o cheraist eil[i]w ewyn
22 lliwr papyr oyd hir hyd hyn
23 llayssa boyn y dydd addaw
24 lles yw ithenaid beidiaw
25 athewi ar gywydday
26 ac arver oth baderay
27 nid er kywydd ac englyn
28 y prynnodd duw enaid tyn
29 nid oys och kerdd chwi y gler
30 ond trvth a lleissie over
31 ac annoc gwyr a gwragedd
32 i bechod ac anwirredd
33 nidta yr moliant kyrfforawl
34 a ddygo yr enaid i ddiawl
35 mine attebais ir brawd
36 am bob gair araddowawd
37 nid ydiw duw mor grevlon
38 ac i dowaid ddynion
39 [146] ni chyll duw enaid gwr mwyn
40 er karv gwraic na morwyn
41 triffeth a gerir drwyr byd
42 gwraic a hinon ac iechyd
43 merch sydd deka blodevn
44 yn y nef ond duw i hvn
45 o wraic i ganed pob dyn
46 or holl bobloedd ond tridyn
47 ac hyny nid tryvedd
48 garv merched gwragedd
49 or nef i kad pob digrifwch
50 ac o vffern pob tristwch
51 kerdd a bair yn llywenach
52 hen ac ivanck klaf ac iach
53 kyn rreitied i imi brydv
54 ac i tithe bregethv
55 achen iowned ymv glera
56 ac i tithe gardota
57 pand englynion ac odle
58 ywr ymner ar seg segnensie
59 a chwydde i dduw lwyd
60 yw llasswyr da vv broffwyd
61 nid ar vn bwyd ac enllyn
62 y may duw yn porthi pob dyn
63 [147] amser a soded i vwyd
64 ac amser i lochwyd
65 ac amser i bregethv
66 ac amser i gyfanheddv
67 kerdd a genir ymhob gwledd
68 i ddiddany rrianedd
69 a ffader yn yreglwys
70 i geissio tir pvradwys
71 gwir a ddyvod ysdydfach
72 gida i veirdd yn gyfeddach
73 wyneb llawen llawn i dv
74 wyneb trist drwc a erv
75 kyd karo rrai santeiddrwydd
76 eraill a gar s gyfanheddrwydd
77 anaml a wyr kerdd ber
78 a ffawb a wyr i bader
79 ac amhynyr deddfawl frawd
80 nid kerdd sydd vwya pechawd
81 pan vo kystal gan bob dyn
82 glywed pader gan delyn
83 a chan vorynion gwynedd
84 glowed kowydd o vaswedd
85 mi a gana myn vy llaw
86 y pader vyth kyn peidiaw
87 hyd heny mefl i ddavydd
88 o kan bader ond kowydd
dd ap gwillm ai kant