llyma gyffes dafydd ap gwilim wrth y brawd llwyd
5 mi a evthym at y brawd
6 i gyffesv fymhechawd
7 iddo addefais hyd y gwnn
8 mai evlvn prydydd oeddwn
9 am bod erioed yn karv
10 rhiain wynebwen dalddv
11 ag nad oedd ym om llowydd
12 les gan vn benes na bvdd
13 ond i charv i hi yn wastad
14 a chvrio yn fawr oi chariad
15 a dwyn i chlod drwy gymry
16 a bod hebddi er hynny
17 a dymvno i chlowed
18 im gwely rhof ar pared
19 heb y brawd wrthy yna
20 mi a rown iti gyngor da
21 o cheraist ddeiliw ewyn
22 lle roedd hir yt dy hvn
23 llaesa boen y dydd a ddaw
24 lles yw ith enaid beidiaw
25 [88v] a thewi ar kywydde
26 ag arfer a ffadreve
27 nid a chowydd nag englyn
28 y prynnodd dvw enaid dyn
29 nid oes och kerdd chwir gler
30 ond trvth a lleisie ofer
31 I annog gwyr a gwragedd
32 ir pechod ar enwiredd
33 nid da r moliant korfforawl
34 a ddycko r enaid i ddiawl
35 mine attebais y brawd
36 am bob gair ar a ddyfawd
37 nid ydyw dvw mor grevlon
38 ag i dowaid yr hen ddynion
39 ni chyll dvw enaid gwr mwyn
40 er karv gwraig ne forwyn
41 tri ffeth a gerir drwy r byd
42 gwaig a hinon ac iechyd
43 a merch sy decka blodevn
44 yn y nef ond dvw i hvn
45 o wraig y ganed pob dyn
47 ag am hynny nid rhyfedd
48 garv merched a gwragedd
49 [89r] or nef y kad pob digrifwch
50 ag o vffern pob tristwch
51 kerdd a bair yn llawenach
52 hen ag ifangk kla ag iach
53 kyn rheitied imi brydyddv
54 ag i tithe brygethv
55 kyn rheittied imi glera
56 ag i tithe gardota
59 pand kowydd i ddvw lwyd
60 oedd loswyr ddafydd broffwyd
61 nid ar fwydydd nag enllyn
62 i mae dvw yn porthi dyn
63 amser sydd i fwyd
64 ag amser sydd i lochwyd
67 kerdd a genir ymhob gwledd
68 i ddiddanv Rianedd
69 a ffader yn yr Eglwys
70 i geissio tir paradwys
71 gwir a ddowaid ystvdfach
72 gidai wyr wrth gyfeddach
73 [89v] wyneb trist drwg a dry
74 wyneb llawen llawn i dy
75 kyd kar rhai santeiddrwydd
76 eraill a gar gyfanheddrwydd
79 ag am hynny y deddfawl frawd
80 nid kerdd sy fwya pechawd
81 pan fo kystadl gan bob dyn
82 glowed pader gan delyn
83 a chen vorynnion gwynedd
84 glowed klowydd o faswedd
85 yna i kanaf ar fy llaw
86 y pader fyth heb peidiaw
87 hyd hynny mefl i ddafydd
88 o chan bader ond kowydd
Tervyn
Nodiadau
Ychwanegwyd 21, 22 a 33, 34 ar ochr y tudalen.