â â â Rhybudd y Brawd Du
1â â â Modd elw ydd wy'n meddyliaw
2â â â Amarch y padrïarch draw.
3â â â Duw a wyr, synnwyr â sôn,
4â â â Deall y brodyr duon.
5â â â A'r rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
6â â â Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
7â â â Pwl gwfaint, pobl ogyfoed,
8â â â Bob ddau dan yr iau erioed.
9â â â Yna y cefais druth atgas
10â â â Gan y brawd â'r genau bras
11â â â Yn ceisio, nid cyswllt rhwydd,
12â â â Fy llygru â'i haerllugrwydd.
13â â â Llyma fal y cynghores
14â â â Y brawd â'r prudd dafawd pres:
15â â â 'Ystyr pan welych y dyn
16â â â Ebrwydded yr â'n briddyn.
17â â â Yn ddilys yr â i ddelw
18â â â Yn y ddaear yn ddielw'.
19â â â 'Cyd êl i dywarchen ffloch,
20â â â Yn bryd hagr, y brawd dugoch,
21â â â Nid â llewyrchgnawd mirain,
22â â â Pryd balch, ond unlliw'r calch cain'.
23â â â 'Dy serch ar y ferch feinloyw,
24â â â Aur gwnsallt ar hirwallt hoyw,
25â â â Hynny a'th bair i'r pair poethgroen,
26â â â A byth ni'th gair o'r pair poen'.
27â â â Yna y dwedais wrthaw,
28â â â 'Y brawd du, ie, bry, taw!
29â â â Twrn yw annheilwng i ti
30â â â Tristäu dyn tros dewi.
31â â â Er dy lud a'th anudon
32â â â A'th eiriau certh a'th serth sôn,
33â â â Mefl ym o gwrthyd Dafydd
34â â â O'r rhai teg deg yn un dydd'.