Rhybudd y Brawd Du
Yr wyf yn ystyried geiriau sarhaus yr hynafgwr draw
[i weld a fyddant yn] cynnig budd [imi].
Duw [yn unig] sy'n deall meddylfryd y brodyr duon,
4 doethineb a gyhoeddir [yn huawdl].
Fe fydd y rhain, twyllodrus yw natur eu cred,
yn bla ar hyd y byd yn grwn,
mynachod oer [eu nwydau], gwyr o'r un oed [â
mi],
8 [wedi eu rhwymo ynghyd] am byth wrth yr aradr fesul dau [fel
dau ychen].
Cefais rai dyddiau yn ôl bregeth wrthun
gan y brawd â'r genau sarrug
a oedd yn ceisio fy llygru â'i eiriau taer;
12 nid rhwydd fydd cyplu [os gwrandewir arno]!
Dyma fel y cynghorodd
y brawd a chanddo neges sobreiddiol [a soniarus] fel corn:
'Pan weli'r ferch ystyria
16 y bydd yn troi yn llwch ymhen dim o dro.
Yn wir i ti fe fydd yn ymlonyddu
yn y ddaear ac ni fydd o fudd [i ti nac i neb]'.
'Er y caiff ei rhoi o dan dywarchen helaeth,
20 nid â cnawd disglair y ferch brydferth
yn salw, y brawd coch ei groen / gwallt a du ei wisg,
yr un trahaus ei wedd, ond [yn hytrach] yr un lliw â'r
calch teg'.
'Dy serch ar y ferch luniaidd a disglair
24 [a chanddi] benwisg euraid yn gorchuddio gwallt hir a
hardd,
bydd hyn yn dy arwain i'r pair [lle y caiff] dy gnawd ei ferwi
ac ni bydd gobaith dy achub o'r cyfryw le argyfyngus'.
Dywedais wrtho wedyn,
28 'Bydd yn dawel, yn wir, y brawd du, y corgi.
Peth cwbl amhriodol i ti
yw difrifoli dyn trwy [ei orfodi i feddwl am] farwolaeth.
Er dy daerineb a'th gelwyddau
32 a'th eiriau aruthr a'th bregeth anfoesgar,
cywilydd arnaf fi, Ddafydd,
os gwrthodaf unrhyw ddydd [o'm hoes] ddeg [merch] o blith y rhai
prydferth'.