â â â Morfudd yn Hen
1â â â Rhöed Duw hoedl, rhad didlawd,
2â â â Rhinllais frân, i'r rhawnllaes frawd.
3â â â A geblynt, ni haeddynt hedd,
4â â â Y brawd o gysgawd gosgedd
5â â â Nêr a rifer o Rufain,
6â â â Noeth droed, wr unwallt nyth drain.
7â â â Rhwyd yw'r bais yn rhodio'r byd,
8â â â Rhyw drawsbren, rhad yr ysbryd,
9â â â Periglor gerddor geirddoeth,
10â â â Barcutan, da y cân, Duw coeth.
11â â â Mawr yw braint siartr ei gartref,
12â â â Maharen o nen y nef.
13â â â Huawdl o'i ben gymhennair,
14â â â Hoedl oe fin, hudol i Fair.
15â â â Ef a ddywawd, wawd wydnbwyll,
16â â â Am liw'r dyn nid aml ar dwyll:
17â â â 'Cymer dy hun, ben cun cant,
18â â â Grysan o'r combr a'r grisiant;
19â â â Gwisg, na ddiosg wythnosgwaith,
20â â â Gwasgawd mwythus lyfngnawd maith.'
21â â â - Dirdrais fu ym, chwedl ail Dirdri -
22â â â 'Duach fydd' - a dwyoch fi!
23â â â Foel-llwyd ddeheuwawd frawd-ddyn,
24â â â Felly'r brawd du am bryd dyn.
25â â â Ni pheidiwn, pe byddwn Bab,
26â â â Â Morfudd tra fûm oerfab.
27â â â Weithion, cyhuddeidion cawdd,
28â â â Y Creawdr a'i hacraawdd,
29â â â Hyd nad oes o iawnfoes iach
30â â â Un lyweth las anloywach,
31â â â Nid â fal aur da liw'r dyn,
32â â â Brad arlwy, ar bryd erlyn.
33â â â Brenhines bro anhunedd,
34â â â Brad y gwyr o bryd a gwedd,
35â â â Braisg oedd, un anun einioes,
36â â â Breuddwyd yw; ebrwydded oes!
37â â â Ysgubell ar briddell brag,
38â â â Ysgawen lwydwen ledwag.
39â â â Hudolaidd y'i hadeilwyd,
40â â â Hudoles ladrones lwyd.
41â â â Henllath mangnel Gwyddeleg,
42â â â Hafod oer; hi a fu deg.