Morfudd yn Hen | |
Rhöed Duw hoedl, rhad didlawd, | |
Rhinllais frân, i'r rhawnllaes frawd. | |
A geblynt, ni haeddynt hedd, | |
4 | Y brawd o gysgawd gosgedd |
Nêr a rifer o Rufain, | |
Noeth droed, ŵr unwallt nyth drain. | |
Rhwyd yw'r bais yn rhodio'r byd, | |
8 | Rhyw drawsbren, rhad yr ysbryd, |
Periglor gerddor geirddoeth, | |
Barcutan, da y cân, Duw coeth. | |
Mawr yw braint siartr ei gartref, | |
12 | Maharen o nen y nef. |
Huawdl o'i ben gymhennair, | |
Hoedl oe fin, hudol i Fair. | |
Ef a ddywawd, wawd wydnbwyll, | |
16 | Am liw'r dyn nid aml ar dwyll: |
'Cymer dy hun, ben cun cant, | |
Grysan o'r combr a'r grisiant; | |
Gwisg, na ddiosg wythnosgwaith, | |
20 | Gwasgawd mwythus lyfngnawd maith.' |
– Dirdrais fu ym, chwedl ail Dirdri – | |
'Duach fydd' – a dwyoch fi! | |
Foel-llwyd ddeheuwawd frawd-ddyn, | |
24 | Felly'r brawd du am bryd dyn. |
Ni pheidiwn, pe byddwn Bab, | |
 Morfudd tra fûm oerfab. | |
Weithion, cyhuddeidion cawdd, | |
28 | Y Creawdr a'i hacraawdd, |
Hyd nad oes o iawnfoes iach | |
Un lyweth las anloywach, | |
Nid â fal aur da liw'r dyn, | |
32 | Brad arlwy, ar bryd erlyn. |
Brenhines bro anhunedd, | |
Brad y gwŷr o bryd a gwedd, | |
Braisg oedd, un anun einioes, | |
36 | Breuddwyd yw; ebrwydded oes! |
Ysgubell ar briddell brag, | |
Ysgawen lwydwen ledwag. | |
Hudolaidd y'i hadeilwyd, | |
40 | Hudoles ladrones lwyd. |
Henllath mangnel Gwyddeleg, | |
Hafod oer; hi a fu deg. | |