| Morfudd yn Hen | |
| Rhöed Duw hoedl, rhad didlawd, | |
| Rhinllais frân, i'r rhawnllaes frawd. | |
| A geblynt, ni haeddynt hedd, | |
| 4 | Y brawd o gysgawd gosgedd |
| Nêr a rifer o Rufain, | |
| Noeth droed, ŵr unwallt nyth drain. | |
| Rhwyd yw'r bais yn rhodio'r byd, | |
| 8 | Rhyw drawsbren, rhad yr ysbryd, |
| Periglor gerddor geirddoeth, | |
| Barcutan, da y cân, Duw coeth. | |
| Mawr yw braint siartr ei gartref, | |
| 12 | Maharen o nen y nef. |
| Huawdl o'i ben gymhennair, | |
| Hoedl oe fin, hudol i Fair. | |
| Ef a ddywawd, wawd wydnbwyll, | |
| 16 | Am liw'r dyn nid aml ar dwyll: |
| 'Cymer dy hun, ben cun cant, | |
| Grysan o'r combr a'r grisiant; | |
| Gwisg, na ddiosg wythnosgwaith, | |
| 20 | Gwasgawd mwythus lyfngnawd maith.' |
| – Dirdrais fu ym, chwedl ail Dirdri – | |
| 'Duach fydd' – a dwyoch fi! | |
| Foel-llwyd ddeheuwawd frawd-ddyn, | |
| 24 | Felly'r brawd du am bryd dyn. |
| Ni pheidiwn, pe byddwn Bab, | |
| Â Morfudd tra fûm oerfab. | |
| Weithion, cyhuddeidion cawdd, | |
| 28 | Y Creawdr a'i hacraawdd, |
| Hyd nad oes o iawnfoes iach | |
| Un lyweth las anloywach, | |
| Nid â fal aur da liw'r dyn, | |
| 32 | Brad arlwy, ar bryd erlyn. |
| Brenhines bro anhunedd, | |
| Brad y gwŷr o bryd a gwedd, | |
| Braisg oedd, un anun einioes, | |
| 36 | Breuddwyd yw; ebrwydded oes! |
| Ysgubell ar briddell brag, | |
| Ysgawen lwydwen ledwag. | |
| Hudolaidd y'i hadeilwyd, | |
| 40 | Hudoles ladrones lwyd. |
| Henllath mangnel Gwyddeleg, | |
| Hafod oer; hi a fu deg. | |