Edited Text: 150 - Morfudd yn Hen

Print friendly version

Morfudd yn Hen

Rhöed Duw hoedl, rhad didlawd,
Rhinllais frân, i'r rhawnllaes frawd.
A geblynt, ni haeddynt hedd,
4Y brawd o gysgawd gosgedd
Nêr a rifer o Rufain,
Noeth droed, ŵr unwallt nyth drain.
Rhwyd yw'r bais yn rhodio'r byd,
8Rhyw drawsbren, rhad yr ysbryd,
Periglor gerddor geirddoeth,
Barcutan, da y cân, Duw coeth.
Mawr yw braint siartr ei gartref,
12Maharen o nen y nef.
Huawdl o'i ben gymhennair,
Hoedl oe fin, hudol i Fair.
Ef a ddywawd, wawd wydnbwyll,
16Am liw'r dyn nid aml ar dwyll:

   'Cymer dy hun, ben cun cant,
Grysan o'r combr a'r grisiant;
Gwisg, na ddiosg wythnosgwaith,
20Gwasgawd mwythus lyfngnawd maith.'
– Dirdrais fu ym, chwedl ail Dirdri –
'Duach fydd' – a dwyoch fi!

   Foel-llwyd ddeheuwawd frawd-ddyn,
24Felly'r brawd du am bryd dyn.
Ni pheidiwn, pe byddwn Bab,
 Morfudd tra fûm oerfab.
Weithion, cyhuddeidion cawdd,
28Y Creawdr a'i hacraawdd,
Hyd nad oes o iawnfoes iach
Un lyweth las anloywach,
Nid â fal aur da liw'r dyn,
32Brad arlwy, ar bryd erlyn.

   Brenhines bro anhunedd,
Brad y gwŷr o bryd a gwedd,
Braisg oedd, un anun einioes,
36Breuddwyd yw; ebrwydded oes!
Ysgubell ar briddell brag,
Ysgawen lwydwen ledwag.
Hudolaidd y'i hadeilwyd,
40Hudoles ladrones lwyd.
Henllath mangnel Gwyddeleg,
Hafod oer; hi a fu deg.