Morfudd yn Hen
Rhodded Duw fywyd, gras helaeth,
brân â llais hudolus, i'r
brawd â'r wisg rawn lac.
Ni ddylai'r rhai a gabla
4 y brawd o ffurf gyffelyb
i'r arglwydd anrhydeddus o Rufain gael heddwch,
troed noeth, gwr â gwallt fel nyth
drain.
Rhwyd yw'r wisg yn crwydro drwy'r byd,
8 rhyw groesbren, gras yr ysbryd,
offeiriad o gantor doeth ei eiriau,
mae'n canu'n dda, barcud Duw
ardderchog.
Mawr yw braint siarter ei gartref,
12 maharen o ucha'r sodiac.
Huawdl yw'r geiriau doeth o'i geg,
bywyd i'w enau, dewin i Fair.
Dywedodd hwn, araith dreiddgar,
16 am liw'r ferch nad yw'n twyllo'n aml:
'Cymer di dy hun, arglwydd bennaeth cant,
grys bach o'r camrig a'r grisial;
gwisga ef, paid â'i dynnu am wythnos gyfan,
20 gorchudd i'r cnawd llyfn moethus am amser maith.'
- gormes fu i mi, hanes tebyg i un Deirdre -
'Fe fydd yn dduach' - a gwae fi!
Y brawd moel, llwyd, a'i araith gelfydd,
24 felly y dywedodd y brawd du am olwg merch.
Ni roddwn i'r gorau i Forfudd,
petawn i'n Bab, tra fûm yn llanc trist.
Yn awr, cyhuddiadau dig,
28 y Creawdwr [ei hun] a'i gwnaeth hi'n hyll,
nes nad oes o ddull iawn iach
un cudyn o wallt llwyd llai gloyw,
(nid yw lliw'r ferch yn dal fel aur da)
32 arlwy o frad, ar wyneb taeog salw.
Brenhines gwlad y diffyg cwsg,
brad y dynion trwy ei phryd a'i gwedd,
roedd hi'n llawn nerth, [ac] nid oedd cwsg i'w gael yn [fy]
mywyd,
36 breuddwyd ydyw, mor gyflym yr â oes dyn heibio!
Brwsh ar lawr pridd bragdy,
ysgawen wen a llwyd a hanner noeth [yw hi bellach].
Fe'i lluniwyd yn hudolus,
40 swynwraig o ladrones lwyd.
Hen drawst peiriant taflu Gwyddelig,
hafod oer; fe fu hi'n hardd.