Morfudd yn Hen
   Rhodded Duw fywyd, gras helaeth,
   brân â llais hudolus, i'r
		  brawd â'r wisg rawn lac.
   Ni ddylai'r rhai a gabla
4   y brawd o ffurf gyffelyb
   i'r arglwydd anrhydeddus o Rufain gael heddwch,
   troed noeth, gwr â gwallt fel nyth
		  drain.
   Rhwyd yw'r wisg yn crwydro drwy'r byd,
8   rhyw groesbren, gras yr ysbryd,
   offeiriad o gantor doeth ei eiriau,
   mae'n canu'n dda, barcud Duw
		  ardderchog.
   Mawr yw braint siarter ei gartref,
12   maharen o ucha'r sodiac.
   Huawdl yw'r geiriau doeth o'i geg,
   bywyd i'w enau, dewin i Fair.
   Dywedodd hwn, araith dreiddgar,
16   am liw'r ferch nad yw'n twyllo'n aml:
   'Cymer di dy hun, arglwydd bennaeth cant,
   grys bach o'r camrig a'r grisial;
   gwisga ef, paid â'i dynnu am wythnos gyfan,
20   gorchudd i'r cnawd llyfn moethus am amser maith.'
   - gormes fu i mi, hanes tebyg i un Deirdre -
   'Fe fydd yn dduach' - a gwae fi!
   Y brawd moel, llwyd, a'i araith gelfydd,
24   felly y dywedodd y brawd du am olwg merch.
   Ni roddwn i'r gorau i Forfudd,
   petawn i'n Bab, tra fûm yn llanc trist.
   Yn awr, cyhuddiadau dig,
28   y Creawdwr [ei hun] a'i gwnaeth hi'n hyll,
   nes nad oes o ddull iawn iach
   un cudyn o wallt llwyd llai gloyw,
   (nid yw lliw'r ferch yn dal fel aur da)
32   arlwy o frad, ar wyneb taeog salw.
   Brenhines gwlad y diffyg cwsg,
   brad y dynion trwy ei phryd a'i gwedd,
   roedd hi'n llawn nerth, [ac] nid oedd cwsg i'w gael yn [fy]
		  mywyd,
36   breuddwyd ydyw, mor gyflym yr â oes dyn heibio!
   Brwsh ar lawr pridd bragdy,
   ysgawen wen a llwyd a hanner noeth [yw hi bellach].
   Fe'i lluniwyd yn hudolus,
40   swynwraig o ladrones lwyd.
   Hen drawst peiriant taflu Gwyddelig,
   hafod oer; fe fu hi'n hardd.