Ir brawd llwyd: da ap Gwilim am roi penvd ar forfydd i ddifwyno i
gwedd hi
1 Rhoed duw hoedl a rhod hydlawd
2 rhinllaeis fron ir rhownllaes frawd
3 ath geblynt ni haeddynt hedd
4 y brawd o gysgawd gosgedd
5 ner a rifer o Rvfain
6 noeth droed wr vnwallt nyth drain
7 Rhwyd ywr bais n rhodio'r byd
8 rhyw drowsbren rhad yr ysbryd
9 peryglor gerddor geirddoeth
10 barkvttan (da i kan) dyw koeth
11 mawr yw braint siarter i gartref
12 myharen o nen y nef
13 hvawdl oi ben gymhenair
14 hoedl oi fin hvdol i fair
15 [121] ef a ddywawd wawd wydnbwyll
16 am liw'r dydd in aml yw r bwyll
17 kymer dy hun ben kvn kant
18 grysan rhawn amber a grisiant
19 gwisg na ddiosg wyth noswaith
20 gwasgawd mwvthys lyfngnawd maith
21 dirdra i fun fellv od ordri
22 dvach fydd a dwyoch fi
23 foel llwyd ddehevwawd frawd ddyn
24 fellv r brawd dv am brvd dyn
25 ni pheidiwn pe byddwn bab
26 a Morfydd tra fvm oerfab
27 weithion kyhvddion kawdd
28 y kreawdr ai hakravawdd
29 hyd nad oes o iown foes iach
30 vn lyweth las anloywach
31 nid a fel aur da liw r dyn
32 brad arlwy ar bryd erlyn
33 brenhines bro anhvnedd
34 brad y gwyr o brvd a gwedd
35 [122] braisg oedd vn anvn einioes
36 brevddwyd yw ebrwydded oes
37 ysgybell ar briddell brag
38 ysgawen lwydwen ledwag
39 hvdolaidd ir adeiliwyd
40 hvdoles ladrones lwyd
41 henllath magnel gwyddeleg
42 hafod oer hi a fv deg
{D. G.}