1 Ro duw hoydyl rhod dihydlawd
2 Rinllays vran y rhownllays vrawd
3 A geblynt ni heyddynt hedd
4 Y brawd o gysgawd gosgedd
5 Ner a rifer o rufain
6 Noyth droed wr vnwallt nyth drain
7 Rwyd ywr bais yn rhodio r byd
8 Ryw drowsbren rhad yr ysbryd
9 Periglor gerddor geirddoeth
10 Barkutan da i kan dyw koeth
11 Mawr yw braint siartr i gartref
12 Myharen o nen y nef
13 Huawdl oi benn gymhennair
14 Hoydl oi vin hudol i vair
15 Ef a ddywawd wawd wydnbwyll
16 Am liwr dyn nid amyl ar dwyll
17 Kymmer dy hun benn kun kant
18 Grysseu or kambr ar grissiant
19 Gwisc na ddiosc wyth nosgwaith
20 Gwascawd mwythus lyfngnawd maith
21 dirdrais vum chwedl ail dirdri
22 duach vydd a dwyoch vi
23 Voyllloyd ddeheuwawd vrawdddyn
24 Velly r brawd du am bryd dyn
25 Ni ffeidiwn pe byddwn bab
26 A Morvydd tra vum oyrvab
27 Weithiawn kyhuddeidiawn kawdd
28 Y kreawdr ai hakraawdd
29 Hyd nad oys o iownvoys iach
30 Vn lyweth las anloywach
31 Nid da val aur da liw r dyn
32 Brad arlwy ar bryd erlyn
33 Brenhines bro anhunedd
34 Brad y gwyr o bryd a gwedd
35 Braisc oydd vn annun einioes
36 Breuddwyd yw ebrwydded oes
37 Yscybell ar briddell brag
38 Ysgawen lwydwen ledwag
39 Hudolaidd ith hedeilwyd
40 Hudoles ladrones lwyd
41 Henllath mangnel gwyddelec
42 Havod oyr hi a vu dec
dd' ap gwilim