1 Rhoed duw hoedl rhad didlawd
2 rhinllaes fran ir rhownllaes frawd
3 a geblynt ni heuddynt hedd
4 y brawd o gysgawd gosgedd
5 ner a rifer o rufain
6 noeth droed wr vn walld nyth drain
7 rhwyd yw r bais yn rhodioÕr byd
8 rhyw drowsbren rhad yr yspryd
9 priglor gerddor geirddoeth
10 barkuttan i kan duw koeth
11 mawr yw braint siartar i gartref
12 myharen o nen y nef
13 huawdl oi ben gymhenair
14 hoedl oi fin hudol i fair
15 ef a ddywawd wawd wydn bwyll
16 am liw r dyn nid aml ar dwyll
17 kymer dy hun ben kun kant
l8 grysav or kombyr ar grisiant
19 gwisg na ddiosg wyth nosgwaith
20 gwasgawd mwythus lyfngnawd maith
21 dirdrais fvm chwedl dirdri
22 duach fydd a dwy och fi
23 foel llwyd ddeheuwawd frawd ddyn
24 felly r brawd tv am bryd dyn
25 ni ffeidiwn pei byddwn bab
26 a morfudd tra fum oerfab
27 weithiawn kyhuddiawn kawdd
28 y kreawdr ai hakreuawdd
29 hyd nad eos o ionfoes iach
30 vn loweth las anloewach
31 nid a fal aur da liw r dyn
32 brad arlwy ar bryd erlyn
33 brenhines bro anhunedd
34 brad y gwyr o bryd a gwedd
35 braisg oedd vn annvn einioes
36 breuddwyd yw ebrwydded oes
37 ysgybell ar briddell brag
38 ysgawen lwydwen ledwag
39 hydolaidd idd hadeilwyd
40 hudoles ladrones lwyd
41 henllath mangnel wyddeleg
42 hafod oer hi a fv deg