barnad Rhyverch ap Ieuan lloyd
1 doe y klowes nevrgissies gel
2 dair och arlethyrdir vchel
3 Ni meddyliwn gwn ganoch
4 rhoi o wr vyth y rrvw och
5 Ni bv im gwld rroddiad rrydd
6 na llif kwyn na llef kynydd
7 na meingorn ar lethyr mangoed
8 na chloch vwch nor och a roed
9 pa dwrwf yw hwn pedeiroch
10 pefr loes pwy aroes yr och
11 llywelyn or syddyn serch
12 a roes hono am redderch
13 vychan garllaw i lan lys
14 ffyddvrawd am rydderch ddiffoddvrys
15 amlyn yn i dyddyn dic
16 awynaeth alar am amic
17 och gwr avai yn awch garv
18 I gar o vawr alar vv
19 [132] ar drydedd och vv gloch y glyn
20 llef ail a roes llywelyn
21 pan gaiwyd saith gwddiwyd serch
22 ac vn rroddiad genav rrydderch
23 darvv gwn im diervir
24 ben dehevbarth wen yn wir
25 darvvr voes dirvawr vedd
26 darvv daiarv dewredd
27 gorwyn alarch yngwarchae
28 gorwedd mewn maenvedd y mae
29 nattvr boen nid hwyr bedd
30 syth drvdfalch no saith droedvedd
31 pregeth ryvedd yw gweddv
32 dan hyn o dywerchyn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rrodd gampvs rydderch
35 Ai giwdawd gollwawd gall
36 ai gryfgorff gwyn digrifgall
37 ai gampav chwedl amav iawn
38 bw ai lwyddiant ai olevddawn
39 ai ras goweithas ieithydd
40 ai glod och ddyvod i ddydd
41 trwst oer trist i ddaiarv
42 trvgaroc o varchoc vv
43 trvgaredd saint y wledd serch
44 a roddo krist i rydderch
Iolo goch a k {Da'p Gwilym medd eraill}