Yr Adfail
    'Tydi, y bwthyn chwilfriw a'i ochrau yn agored
    rhwng y rhostir a meysydd y llechwedd,
    gwae'r sawl a'th welodd, gallai pob un gredu,
4    yn llety cartrefol gynt
    ond a'th wêl heddiw yn ddrylliog ei do,
    yn dy a ddarniwyd o dan weddillion y to.
    Fe fu adeg hefyd ger dy furiau cedyrn,
8    cosb [sy'n peri] ing,
    [pan] ydoedd hi yn fwy difyr oddi mewn i ti
    nag [ydyw hi 'nawr a thithau fel] yr wyt, y nenfwd [sy'n destun]
		  dirmyg,
    pan welais, cenais [dy] glodydd mewn modd disglair,
12    yn dy gornel, lodes hardd [oedd] oddi mewn i ti,
   enethig aeddfed ei ffurf, un dirion a bonheddig ydoedd, 
    yn cydorwedd [â mi],
    a breichiau'r ddau ohonom, bydd atgofion [pleserus] am yr un
		  [ferch hon],
16    yn gwlwm o amgylch ein gilydd:
    braich y ferch ifanc, disgleirdeb gronynnau yr eira
		  mân,
    o dan glust y llanc [sy'n] ben-campwr [ar ganu] clodydd,
    a'm braich innau, [bu] ystryw amlwg, 
20   o dan glust chwith merch fonheddig a phrydferth. 
    [Yr oedd] hyfrydwch i un mwyn o dan dy drawstiau cedyrn 
    ond nid felly y mae heddiw'.
    'Cwyn sydd i mi, hud grymus llu byddinog,
24   oherwydd yr ymdaith a ddygodd y gwynt gwyllt. 
   Gwnaeth storm o grombil y dwyrain 
    ymgyrch hyd at y muriau cerrig. 
    Rhyferthwy gwynt y de a'm hanrheithiodd,
28    siwrnai [a barodd] drallod'.
    'Ai'r gwynt a fu'n difetha mor drylwyr?
    Cafodd wared ar dy do yn llwyr neithiwr. 
    Torrodd wiail dy do mewn modd garw.
32   Swynwr dychrynllyd yw'r byd yn dragywydd. 
    Gwely i mi ydoedd dy gornel,
    mynegaf fy ngalar helaeth, nid twlc mochyn. 
    Yr oeddet ddoe yn siriol [ac] yn lluniaidd
36    [ac] yn gysurus uwchben f'anwylyd tirion.
    Hawdd yw profi [hynny], yr wyt heddiw,
    myn Pedr, heb na thrawst na tho.
    Amryfal droeon sy'n peri gwallgofrwydd disymwth.
40    Ai hwn yw'r bwthyn chwilfriw hwn ac arno arwyddion twyll?'
		  
    'Aeth nifer, Dafydd, o [ganlyniad] i waith y fall
    i'w beddau. Bu [yma gynt] fywyd da'.