1 Tydi y bwth tinrhwth Twn
2 Rhwng y gwevndir ar gwyndwn
3 Gwae ath weles dygesynt
4 Yn gyfannedd gyfedd gynt
5 Ac ath wyl heddiw n friw frig
6 dan do ais dwnn dy yffyssig
7 A hefyd yn dy hoywfvr
8 Ef a fv ddydd cerydd cvr
9 Ynod ydd oedd diddanwach
10 Nac yr wyd y gronglwyd grach
11 Pan welais pefr gludais glod
12 Yn dy gongl vn deg yngod
13 forwyn fonheddig fwyn fv
14 hoywdwf yn ymgyhydv
15 [146v] A braich pob vn gofl fvn fydd
16 Yn gwlm amgylch i gilydd
17 Braich meinir briw vwch manod
18 Goris clust gorevwas clod
19 Am braich innav somav syml
20 dan glvst asswy dyn glwys disyml
21 Hawddfydd gan fasw ith laswydd
22 A heddyw nid ydyw 'r dydd
23 Ys mav gwyn geirswyn gwersyllt
24 Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt
25 Ystorm o fynwes dwyrain
26 A wnaeth gvr hyd y mvr main
27 Ychenaid gwynt gerrynt gawdd
28 Y deav am didoawdd
29 Ai r gwynt a wnaeth helynt hwyr
30 da nithiodd dy do neithiwyr
31 hagr y torres dy essyth
32 hvdol enbyd yw'r byd byth
33 dy gongl mav ddeongl ddwyoch
34 Gwely ym oedd nid gwâl moch
35 Doe'r oeddid mewn gradd addwyn
36 [147r] Yn glyd vwch ben y myd mwyn
37 Hawdd o ddadl heddyw 'dd ydwyd
38 Myn Pedr heb na chledr na chlwyd
39 Amryw bwngc ymwngc ammwyll
40 Ai hwn yw'r bwth twnn bath twyll
41 Aeth Talm o waith y tevlv
42 Dafydd a chroes da foes fv
Da' ap Glm'