{Ko y bwth kandrull}
1 Tydi'y bwth tinrhwth twn
2 rhwng y gwevndir ar gwndwn
3 gwae ath weles dygesynt
4 yn gyvanedd gytedd gynt
5 ac ath wyl heddiw'n vriw vrig
6 dan dy ais yn duy ysig
7 a hefyd gaer dy hoywvur
8 ef a vu ddydd cerydd cur
9 ynod yddoedd ddiddanach
10 nog yr wyd y gronglwyd grach
11 pan welais pefr gludais glod
12 yn dy gongl vn deg yngod
13 vonheddig vorwyn vwyn vn
14 hoywdeg yn ymgyhydu
15 a braich pob vn gofl vvn vydd
16 yn gwlwm am i gilydd
17 braich meinir briw awch manod
18 goris clust goreuwas clod
19 [403] am braich mau somau syml
20 dan glust asw dyn glwys disyml
21 hawdd vyd gan vasw ith laswydd
22 a heddiw nid ydiw'r dydd
23 ysmav gwyn gwirswyn gwersyllt
24 am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt
25 ystorm o vonwes dwyrain
26 a wnaeth gur hyd y mur main
27 vchenaid gwynt gerynt gawdd
28 y deau a'm didyawdd
29 ai'r gwynt a wnaeth helynt hwyr
30 da nithiodd dy do neithwyr
31 hagr y torres dy esyth
32 hudol enbyd yw'r byd byth
33 dy gongl mav ddeol ddwyoch
34 gwely ym oedd nid gwal moch
35 doe'roeddyd mewn gradd addwyn
36 yn glyd uwch ben vy myd mwyn
37 hawdd o ddadl heddiw' ddydwyd
38 myn Pedr heb na chledr na chlwyd
39 am ryw bwnc ymwnc amwyll
40 hwn yw'r bwth twn a bath twyll
41 aeth talym o waith teulu
42 Davydd ach rhoes da voes vu
Dauid ap Gwilim