{I'r hen dy}
1 Tydi y bwth tinrhwth twnn
2 rhwng y gweundir a'r gwyndwynn
3 Gwae a'th weles dygessynt
4 yn gyfannedd gyfedd gynt
5 Ac a'th wêl heddiw 'n friw-frig
6 dann dy ais dwnn dy yssig
7 A hefyd dann dy hoew-fur
8 ef a fu ddydd cerydd cur
9 [19r] ynot ydd oedd ddiddanach
10 noc yr wyt gronglwyd grach
11 pan welais pefr gludais glod
12 yn dy gongl vn deg yngod
13 forwyn fonheddig fwyn fu
14 hoew-dwf yn ymgyhydu
15 a braich pob vn gofl fun fydd
16 Yn gwlm amglych ei gilydd
17 Braich meinir briw awch manod
18 goris clust goreu-was clod
19 Am braich innau somau syml
20 dan glust asswy dyn glwys ddissyml
21 hawdd fyd gann fassw i'th las-wydd
22 A heddyw nid ydyw'r dydd
23 Ys mau gwyn gwirswyn gwersyllt
24 Am hyn a wnaeth y gwynt gwyllt
25 Ystorm o fynwes dwyrain
26 a wnaeth gur hyd y mur main
27 vchenaid gwynt gerynt gawdd
28 Y deau a'm didyawdd
29 Ai'r gwynt a wnaeth helynt hwyr
30 da nithiodd dy do neithwyr
31 hagr y torres dy essydd
32 hudol enbyd yw'r byd byth
33 dy gongl mau ddeongl ddwy och
34 gwely i'm oedd nid gwâl moch
35 Doe'r oeddyd mewn gradd addwyn
36 Yn glyd vwch benn fy myd mwyn
37 hawdd o ddadl heddyw ddydwyd
38 myn Pedr heb na chledr na chlwyd
39 Amryw bwnk y mwngc amwyll
40 ai hwnn yw'r bwth twnn bath twyll
41 Aeth talm o waith y teulu
42 Dafydd a chroes da foes fu
dd' ap Gwilym