1 Ai hwn ywr bwth tinRwch twn
2 hir Rwng gwevndir a gwyndwn
3 Gwae ath weles dygesynt
4 yn gyfannedd gyntedd gynt
5 Ag ath wyl heddiw vriw vrig
6 dan do vs yn dy ysig
7 A hefyd ger dy hoywvur
8 Ef a vu ddydd kerydd kur
9 ynod y ddoedd ddiddanach
10 Noc yr wyd y gronglwyd grach
11 pan welais nevr gludais glod
12 yn dy gongl ddyn deg yngod
13 vorwyn voneddic vwyn vu
14 hoywdwf yn ymgyhydu
15 A braich pob vn kof vun vydd
16 yn gwlwm amgylch i gilydd
17 Braich meinir briw awch manod
18 Goris klust gorevwas klod
19 Ai vraich yntav somav symyl
20 dan glust aswy dyn glwys disyml
21 hawdd vyd gan vasw ith vraswydd
22 A heddyw nid ydyw r dydd
23 ys mav gwyn gwirswyn gwersyllt
24 Gan hynt a dduc y gwynt gwyllt
25 ystorm o vynwes dwyrain
26 a wnaeth kur hyd y mvr main
27 Vchenaid gwynt kerrynt kawdd
28 y deav am didyawdd
29 pa wynt vy ni llygrv llwyr
30 da nithiwyd ty do neithwyr
31 hagr i torres dy essyth
32 hudol enbyd ywr byd byth
35 doe roeddud dioer addwyn
36 ynglyd vwch ben vy myd mwyn
37 hawdd o ddadl heddiw ddydwyd
38 myn pedr heb na chledr na chlwyd
33 dy gongl mav ddeongl ddwyoch
34 gwely ym oedd nid gwal moch
39 Cyfriw bwnck emwnck amwyll
40 hwn y bwth twn yw bath twyll
41 ef aeth talm o waith tevlu
42 davydd a chroes da voes vu
Davydd ap Gwilym ai kant