Testun Golygedig: 152 - Awdl i Iesu Grist

Awdl i Iesu Grist

Oesbraff wyd, Iesu, Ysbryd,—gwiw Ddofydd,
      Goddefaist fawr benyd:
   Archoll arf, erchyll wryd,
4    Ar bren croes dros bumoes byd.

Y byd a glybu dy wybodus—gael
   O riain feinael ddiwarÿus.
Gwedy d'eni di, Deus,—yn fore
8   Y'th alwant o'r lle', 'Dom'ne, Dom'nus'.
Diddan dri brenin anrhydeddus—coeth
   A ddoeth i'r cyfoeth yn wŷr cofus.
Dugon dair anrheg, diwgus—roddi,
12   O rym, Mair a thi, aur, myrr a thus.
Gwir Dad a Mab Rhad prydus—ac Ysbryd,
   Gwir llyw iechyd â gwawr llewychus,
Gwae fi, Dduw Tri, ond trahäus—i neb
16    Gwerthu dy wyneb, gwyrth daionus?
Ynfydrwydd, Suddas, bu anfedrus—iawn,
   Dy roi i estrawn, dirwy astrus;
Gormodd gwaith a rodd o'i rus—amodau:
20   Gwyro d'aelodau, gwawr dyledus.
I eistedd arnad, ustus—cardotai
   O fab y blotai, fu Bilatus.
Doeth i'th gylch yn noeth drwy wenieithus—dôn
24   Iddewon, lladron rhy dwyllodrus.
Aeth naw i'th rwymaw o'th rymus—lendyd
   I brynu penyd ar bren pinus.
Pan welom drosom dy rasus—basiwn
28   Pa nad ystyriwn poen dosturus?
Dy draed yn llawn gwaed, nid gwydus—dy gof,
   Dy ddwylo erof, Duw ddolurus;
Arwyddion angau i'th arweddus—dâl,
32   A gloes ar wyal, glasu'r wëus;
A'th rwymiad creulon yn orthrymus—gaeth,
   Mawr lefain a wnaeth Mair wylofus.
Eisoes ar y groes, grasus—fu'r diwedd,
36   Dy ddianc o'r bedd medd Mathëus.
Ac wedy hynny o'th glwyf heinus—trwm
   Y dyly sentwm dy alw Santus.
O'th gawdd, pwynt anawdd, pand dawnus—fuom
40   Dy ddyfod atom, Duw ddioddefus?
Gwedy d'angau di, nid gwydus—dros neb,
   Da fu i Sioseb dy fyw, Siesus.