| Awdl i Iesu Grist | |
| Oesbraff wyd, Iesu, Ysbryd,—gwiw Ddofydd, | |
| Goddefaist fawr benyd: | |
| Archoll arf, erchyll wryd, | |
| 4 | Ar bren croes dros bumoes byd. |
| Y byd a glybu dy wybodus—gael | |
| O riain feinael ddiwarÿus. | |
| Gwedy d'eni di, Deus,—yn fore | |
| 8 | Y'th alwant o'r lle', 'Dom'ne, Dom'nus'. |
| Diddan dri brenin anrhydeddus—coeth | |
| A ddoeth i'r cyfoeth yn wŷr cofus. | |
| Dugon dair anrheg, diwgus—roddi, | |
| 12 | O rym, Mair a thi, aur, myrr a thus. |
| Gwir Dad a Mab Rhad prydus—ac Ysbryd, | |
| Gwir llyw iechyd â gwawr llewychus, | |
| Gwae fi, Dduw Tri, ond trahäus—i neb | |
| 16 | Gwerthu dy wyneb, gwyrth daionus? |
| Ynfydrwydd, Suddas, bu anfedrus—iawn, | |
| Dy roi i estrawn, dirwy astrus; | |
| Gormodd gwaith a rodd o'i rus—amodau: | |
| 20 | Gwyro d'aelodau, gwawr dyledus. |
| I eistedd arnad, ustus—cardotai | |
| O fab y blotai, fu Bilatus. | |
| Doeth i'th gylch yn noeth drwy wenieithus—dôn | |
| 24 | Iddewon, lladron rhy dwyllodrus. |
| Aeth naw i'th rwymaw o'th rymus—lendyd | |
| I brynu penyd ar bren pinus. | |
| Pan welom drosom dy rasus—basiwn | |
| 28 | Pa nad ystyriwn poen dosturus? |
| Dy draed yn llawn gwaed, nid gwydus—dy gof, | |
| Dy ddwylo erof, Duw ddolurus; | |
| Arwyddion angau i'th arweddus—dâl, | |
| 32 | A gloes ar wyal, glasu'r wëus; |
| A'th rwymiad creulon yn orthrymus—gaeth, | |
| Mawr lefain a wnaeth Mair wylofus. | |
| Eisoes ar y groes, grasus—fu'r diwedd, | |
| 36 | Dy ddianc o'r bedd medd Mathëus. |
| Ac wedy hynny o'th glwyf heinus—trwm | |
| Y dyly sentwm dy alw Santus. | |
| O'th gawdd, pwynt anawdd, pand dawnus—fuom | |
| 40 | Dy ddyfod atom, Duw ddioddefus? |
| Gwedy d'angau di, nid gwydus—dros neb, | |
| Da fu i Sioseb dy fyw, Siesus. | |