Cyw mar Sr Rhydderch Fychan o
Deheubarth
1 Doe clowais mi geisiais gel
2 dair och ar lethrdir vchel
3 ni myddyliwn gwn ganoch
4 y rhoe fyth wr rhyw fath och
5 ni bv in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif cwyn na llef cynydd
7 na meingorn vwch llethr mangoed
8 na chloch vwch nar och a roed
9 pa dwrw yw hwn pryderoch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llywelyn or syddyn serch
12 a roddes hon am Rydderch
13 [116] Fychan garllaw ei lan lys
14 ffyddfrawd Rhydderch ddiffoddfrys
15 och amlyn oi dyddyn dig
16 galaeth mamaeth am emig
17 och gwr a fai'n awch garv
18 ei gar o fawr alar fv
19 ar drydedd och gloch y glyn
20 llef oer a roes llywelyn
21 pan gavwyd saith gvddiwyd serch
22 gwin rhoddiad genav Rhydderch
23 darfv gwn im di erfir
24 ben Deheubarth wen yn wir
25 darfv r foes dirfawr o fedd
26 darfv daearv dewredd
27 gorwyn alarch yngwarchae
28 gorfedd mewn maenfedd i mae
29 natvr boen nid hwy yw'r bedd
30 syth drvdfalch na saith droedfedd
31 pregeth rhyfedd oedd weddv
32 dann hyn o dywerchyn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rodd gampvs Rydderch
35 ai giwdawd di gollwawd gall
36 ai gryfgorff gwyn digrifgall
37 [117] ai gampav chwedl doniav dawn
38 ai lwyddiant ai olevddawn
39 ai ras gyweithas ieithydd
40 ai glod och ddyfod ei ddydd
41 trwst oedd oer trist ddavarv
42 trvgarog o farchog fv
43 trvgaredd am symlwedd serch
44 a roddo dvw i Rydderch
Dafydd ap Gwilym ai cant