Awdl i Iesu Grist
Hirhoedlog ydwyd, Iesu, Ysbryd, Duw teilwng,
dioddefaist benyd helaeth:
briw [gan] arf, dy ddeufraich [a'u gwedd] yn arswydus,
4 ar bren croes dros bum oes y byd.
Clywodd pobl y byd am dy esgor mewn dull rhyfeddol
trwy forwyn syberw, fain ei hael.
Ar ôl d'eni di, Dduw, yn ebrwydd
8 y galwant di â'u cri, 'Domine, Dominus'.
Daeth tri brenin anrhydeddus ac urddasol a charedig
i'r diriogaeth [a hwythau] yn wyr doeth.
Dygasant dair anrheg o bwys [a'u] rhoi yn hael
12 [i] ti ac [i] Mair, aur, myrr a thus.
Gwir Dad a Mab Rhad hardd ac Ysbryd,
gwir arglwydd iechyd a'i wedd yn disgleirio,
gwae fi, Dduw [sydd hefyd yn] Dri, [cyfrwng] gwyrthiau grasol,
16 onid ysgeler [ydoedd] i unrhyw un werthu dy anrhydedd?
Ffolineb, bu Jiwdas yn annoeth iawn,
oedd dy roi i elyn, trosedd ysgeler;
anfadwaith eithafol a wnaeth oherwydd ei gytundeb byrbwyll:
20 [peri] anffurfio dy aelodau, arglwydd breiniol.
I eistedd arnat [i'th farnu], taeog o ustus
a mab i gardotwr blawd, bu Peilat.
Daeth o'th gwmpas, [a thithau] yn noeth, Iddewon a'u geiriau yn
llawn ffalster,
24 lladron hynod dwyllodrus.
Aeth naw i'th rwymo a thithau yn bur a chadarn
er mwyn [i ti] brynu maddeuant ar y pren pinwydd.
Pan welwn dy ddioddefaint graslon ar ein rhan
28 pam na feddyliwn [am dy] boenau gresynus?
Dy draed yn llawn gwaed, nid yw dy fwriadau [tuag atom] yn rhai
milain,
dy ddwylo [hefyd] er fy mwyn, Duw ddoluriog;
arwyddion angau ar dy dalcen urddasol,
32 ac artaith gwaywffyn, y gwefusau yn gwelwi;
a'th rwymo yn greulon, caethiwed treisiol,
llefodd Mair â llef uchel a dagreuol.
Ar y groes wedi hynny, llawn bendith oedd [dy] farwolaeth,
36 dywedodd Mathew [y byddet] yn codi o'r bedd.
Ac ar ôl [i ti wneud] hynny er gwaethaf dy glwyfau dwfn ac
angheuol
dylai'r bobloedd dy alw yn Sant.
Onid ffodus fuom i ti ddyfod atom yn dy drallod,
40 Duw dioddefus, cyflwr poenus?
Ar ôl dy angau, ni fydd neb yn anafus,
da i Joseff dy fod yn fyw, Iesu.