1 doe clowais nis ceisiais gel
2 dair och ar letherdir ychel
3 ni feddyliwn gwnn gannoch
4 i rhoe wr fyth y rhiw och
5 ni by in gwlad roddiad rydd
6 na llif cwyn na llef kynydd
7 na meingorn ywch llether mangoed
8 na chloch ywch nar och a roed
9 pa dwrw yw hwnn pedeiroch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llywelyn orseyddyn serch
12 a roddes honn am Rydderch
13 vychan garllaw i lan lys
14 ffyddfrawd Rydderch ddiffoddfrys
15 och emlyn oi dyddyn dig
16 a maeth alar am emig
17 och gwr a fai yn awch garv
18 i gar o fawr alar fv
19 ar drydedd och gloch or glynn
20 llef ail a roes llywelyn
21 penn gaywyd syth gvddiwyd serch
22 gwin rhoddiad genav rhydderch
23 darfy gwnn in dierfir
24 benn dehevbarth wenn yn wir
25 darfy foes dirfawr o fedd
26 darfy diarfv dewredd
27 [197v] gollwng alarch yngwarchav
28 gorwedd mewn maenfedd i mav
29 natvr boen nad hwy /r/ bedd
30 syth drydfalch na saith droedfedd
31 pregeth rhyfedd oedd weddv
32 dann hynn o dywerchyn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rodd gampys rydderch
37 ai gampav chwedl ddoniav dawn
38 ai loywddysg ai oleyddawn
39 ai ras gyweithas ieithydd
40 ai glod och ddyvod i ddydd
41 trwst oedd oer trist ddayarv
42 trigarog o varchog fv
43 trigaredd am symlwedd serch
44 a roddo duw i rydderch
dd ab gwilym ai kant