Owdyl ar yr un Deunydd o waith dauid ap Gwilim ar vesur Toddaidd
1 Oes-braff wyd Iesu yspryd gwiw ddofydd
2 goddefaist vawr benyd
3 archoll arf erchyll wryd
4 ar bren croes dros bumoes byd
5 y byd a glybu dy wybodus gael
6 o riain feinael ddiwareus
7 gwedi d'eni di Deus yn vore
8 ith alwant oi lle domine dominus
9 [21v] diddan dri brenin anrhydeddus coeth
10 a ddoeth ir kyfoeth yn wyr cofus
11 dygan dair anrheg diwgus roddi
12 o rym mair a thi aur myr a thus
13 gwir dad a mab rhad prydus ag yspryd
14 gwir llyw i iechyd gwawr llewychus
15 gwae fi fy ny{u}w tri ond trauhaus i neb
16 gwerthu dy wyneb gwyrth daionus
17 ynfydrwydd siuddas bu anvedrus iawn
18 dy ro(dd)i i estrawn dirwy astrus
{roi}
19 gormodd fu gwaith rhodd a rhus anoddef{au}
20 gwyro d'aulodeau gwawr dyledus
21 eisteddodd arnad ustus cardottai
22 o vab i vlottai fu Bilatus
23 duw ddoeth oi noeth ddiwenheuthus don
24 Iddewon lladron rhydwyllodrus
25 aeth naw ith rwymaw yn orthrymus bryd
26 er prynu penyd ar brenn pinus
27 pan welsom drossom dy rassus bassiwn
28 pa nad ystyriwn poen dosturus
29 dy draed yn llawn gwaed nid gweddus yngof
30 dy ddwylo erof duw ddolurus
31 arwyddion angau ith arweddus dal
32 a gloes ar fual{wyol} a glassu r
wefus{weus}
33 ath rwymiad creulon yn orthrymus gaeth
34 mawr lefain a wnaeth mair wylofus
35 siesus{ei oes} ar y groes grassus
vur diwedd
36 dy ddiank or bedd medd matheus
37 a gwedy hyny oth glwy heinus trwm
38 dy alw sanctum a ddylu sanctus
39 oth gawdd pwynt anawdd pand downus fuom
40 dy ddyfod attom duw dioddefus
41 gwedi dy angau nid gwydus dros neb
42 da fu i sioseb dy fyw Siesus tervyn {DG}
Olnod mi a wn nad oes mor owdwl yma yn gwbl etto ni welais ond
hyn. ac am nad aeth dd ap Gwilim bellach nar kyfodiad e ddechreuodd Ievan
brydydd hir yntau odl or vn gair i diweddodd dauid val hyn.