owdl o ddioddefaint krist
1 oesbraff wyd iessv ysbryd gwiw ddofydd
2 goddefaist fawr benyd
3 archoll arf erchyll wryd
4 ar bren kroes dros bvmoes byd
5 y byd a glybv dy wybodvs gael
6 oriain feinael ddi wrafvnvs
7 wedi dy eni daionys yn fore
8 ith alwant or lle donie downys
9 diddan dri brenin anrhydeddys koeth
10 Addoeth ir kyfoeth yn wyr kofys
11 dvgon dair anrheg diwgys roddi
12 orym mair a thi avr myr a thvs
13 gwir dad a mab rhad prydvs ag ysbryd
14 a gwir lliw iechyd gwr llewchvs
19 gormodd gwaith a rhodd oi rhvs amodav
20 gwyro daelodav gwawr dledvs
21 eisteddodd arnad vstvs kardotai
22 o fab i blotai fv beilatvs
23 doeth ith gylch ynoeth drwy wenihevthvs don
24 iddewon lladron rhy dwyllodrvs
25 aeth naw ith rwymaw ath rymvs lendyd
26 i brynv penyd ar bren poenys
27 pan welsom drosom dy rasvs basiwn
28 pan nad ystyriwn poen dostvrys
29 dy draed yn llawn gwaed nid gwdys dy gof
30 dy ddwylaw erof duw ddelvrvs
31 ag arwyddion angav ar dy weddvs dal
32 a gloes ar wial a glasvr wefvs
37 gwedi hyny oth glwyf hevnys trwm
38 y dyly sentwm dy alw santys
39 poen gawdd pwynt anawdd pantownvs fvom
40 dy ddyfod atom duw diddotvs
41 gwedi dangav di nid gwdvs i neb
42 da fv i sioseb dy fyw siessvs
dafydd ab gwilym