Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(img)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigCredoCredaf i Naf o nefoedd, Credo gwych, caredig oedd, Dôr a'm ceidw rhag direidwaen, Dawn y blaid, a Duw 'n y blaen. Rhodded yn faith, berffaith Bôr, Rhag angen ym rhyw gyngor I foliannu'n gu gywair Iesu, a moliannu Mair. Iawn i bawb, enw heb awgrim, Moliannu Duw ymlaen dim. Da fu Iesu dewisiad A da oedd ei fam a'i dad. Gorau tad, llathr diathrist, O dadau Cred fu dad Crist. Gwerin nef a'n cartrefo! Gorau mam oedd ei fam fo. Gwarant fydd i bob gwirair. Gorau un mab yw Mab Mair. Gorau merch dan aur goron, Tecaf a haelaf yw hon. Da oedd ddwyn, deddf ddaioni, Gwr o nef yn gâr i ni. Hwn a addewis i'r Israel. Hen fu ac ifanc a hael. Ganed o'i fodd er goddef Yn ddyn aur ac yn Dduw nef. Gwnaeth Iesu Nêr o'i geraint Swrn yn ebystl a saint. Gwnaeth bader ac offeren, Gwnaeth oriau a llyfrau llên. Rhoes gred i'r bobl gyffredin, Rhoes i'w plith gwenith a gwin. Rhoes ei gorff heb ddim fforffed Ar bren croes i brynu Cred. Deugeinawr, deg ogonedd, Hael Iesu y bu mewn bedd. Gwedi cyfodi o'n câr I gyrchu pawb o garchar, Ar ôl yr holl ferth'rolaeth, I nef fry fy Naf yr aeth Lle doter, medd Sain Sieron, Croes Duw a henwi Crist Iôn. Ni ddaw, heb ddiffrydiaw ffrwyth, Na diawl nac un o'i dylwyth, Gwir fab Mair, gair o gariad, I oresgyn tyddyn y Tad. Gair lles yw dwedyd Iesu A gorau gair gan Fair fu. Gair cariad yw o'r gadair A'r Mab Rhad a gad o'r Gair. Duw yw'r Gair, di-wyr gariad, A'r Gair yw Duw ein gwir Dad. Duw fo'n porth a'n cymhorthwy, Amen, nid addunwn mwy.