Testun Golygedig: 153 - Credo

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Credo

Credaf i Naf o nefoedd,
Credo gwych, caredig oedd,
Dôr a'm ceidw rhag direidwaen,
4Dawn y blaid, a Duw 'n y blaen.
Rhodded yn faith, berffaith Bôr,
Rhag angen ym rhyw gyngor
I foliannu'n gu gywair
8Iesu, a moliannu Mair.
Iawn i bawb, enw heb awgrim,
Moliannu Duw ymlaen dim.

   Da fu Iesu dewisiad
12A da oedd ei fam a'i dad.
Gorau tad, llathr diathrist,
O dadau Cred fu dad Crist.
Gwerin nef a'n cartrefo!
16Gorau mam oedd ei fam fo.
Gwarant fydd i bob gwirair.
Gorau un mab yw Mab Mair.
Gorau merch dan aur goron,
20Tecaf a haelaf yw hon.
Da oedd ddwyn, deddf ddaioni,
Gŵr o nef yn gâr i ni.
Hwn a addewis i'r Israel.
24Hen fu ac ifanc a hael.
Ganed o'i fodd er goddef
Yn ddyn aur ac yn Dduw nef.

   Gwnaeth Iesu Nêr o'i geraint
28Swrn yn ebystl a saint.
Gwnaeth bader ac offeren,
Gwnaeth oriau a llyfrau llên.
Rhoes gred i'r bobl gyffredin,
32Rhoes i'w plith gwenith a gwin.
Rhoes ei gorff heb ddim fforffed
Ar bren croes i brynu Cred.
Deugeinawr, deg ogonedd,
36Hael Iesu y bu mewn bedd.
Gwedi cyfodi o'n câr
I gyrchu pawb o garchar,
Ar ôl yr holl ferth'rolaeth,
40I nef fry fy Naf yr aeth
Lle doter, medd Sain Sieron,
Croes Duw a henwi Crist Iôn.
Ni ddaw, heb ddiffrydiaw ffrwyth,
44Na diawl nac un o'i dylwyth,
Gwir fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.

   Gair lles yw dwedyd Iesu
48A gorau gair gan Fair fu.
Gair cariad yw o'r gadair
A'r Mab Rhad a gad o'r Gair.
Duw yw'r Gair, di-ŵyr gariad,
52A'r Gair yw Duw ein gwir Dad.
Duw fo'n porth a'n cymhorthwy,
Amen, nid addunwn mwy.