Credo
Yr wyf yn credu yn Arglwydd y nefoedd,
Credo digymar, [un] caredig oedd [Ef],
Amddiffynnydd a fydd yn fy nghadw rhag digwyddiad arswydus,
4 bendith i'r lliaws, bydded Duw yn arweinydd.
Bydded [iddo] roi i mi yn ddibrin, Dywysog di-fai,
rhyw gyngor [sut] i glodfori Iesu a Mair
yn gariadus ac yn weddus
8 [fel y gall hynny fy amddiffyn] rhag argyfwng.
Gweddus [yw] i bawb, enw heb ffurf sefydlog,
foli Duw o flaen popeth arall.
Bu Iesu, y gwr a ddewiswyd [gan Dduw], yn dda,
12 da hefyd oedd ei fam a'i dad.
Tad Crist fu'r tad gorau o bob tad ar wyneb daear,
un disglair sy'n peri llawenydd.
Ei fam ef oedd y fam orau.
16 Bydded i lu'r nefoedd ein lletya.
Bydd ef yn warant i bob gair o wirionedd.
Mab Mair yw'r mab gorau oll.
Hon yw'r un decaf a'r un garedicaf:
20 y ferch orau o dan ei choron o aur.
Llesol oedd geni gwr o'r nefoedd yn gâr i ni,
nod amgen daioni.
Hwn yw'r un yr addawodd [y proffwydi y byddai'n dod i arwain]
pobl Israel.
24 Bu yn hen, yn ifanc ac yn hael.
Fe'i ganed i fod yn ddyn gwerthfawr ac yn Dduw nef
er mwyn dioddef [a hynny] o'i wirfodd.
Gwnaeth yr Arglwydd Iesu o blith ei ddilynwyr
28 liaws yn apostolion ac yn saint.
Gwnaeth bader ac offeren,
gwnaeth weddïau a llyfrau dysg.
Rhoddodd gred i'r lliaws,
32 dosbarthodd iddynt fara a gwin.
Rhoddodd ei gorff ar bren ar ffurf croes
i brynu holl bobloedd y byd fel na fyddent yn colli dim.
Bu Iesu hael mewn bedd
36 am ddeugain awr, gogoniant mawr.
Ar ôl i'n câr atgyfodi
er mwyn rhyddhau pob un o'i gaethiwed,
yn dilyn ei ferthyrdod eithafol,
40 aeth fy Arglwydd fry i'r nefoedd
lle y gosodir croes Duw yn ôl Sierom Sant
a lle y gelwir ar Grist yr Arglwydd.
Ni ddaw na'r diafol nac un o'i gefnogwyr,
44 ni all [y diafol] amddiffyn y rhai a enillodd [yn ganlynwyr],
gwir fab Mair, addewid cariad [sydd inni],
i oresgyn teyrnas [Duw] y Tad.
Gweithred fuddiol yw galw enw Iesu
48 a hwn oedd y gair gorau a glywodd Mair.
Gair o gariad o'r orsedd yw hwn
ac o'r gair hwnnw fe gafwyd y Mab sanctaidd.
Duw yw'r gair, cyflawn yw ei gariad,
52 a'r gair yw Duw, ein gwir Dad.
Boed Duw yn gynheiliad ac yn gynorthwywr i ni,
Amen, ni ddeisyfwn ni fwy [na hyn].