marwnad Rydderch or deav
1 Doe klowais mi a geisiais gel
2 dair och ar lethr dir vchel
3 ni fyddyliwn gwnn gannoch
4 y rhoe fyth wr rhyw fath och
5 ni bv in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif kwyn na llef kynydd
7 na meingorn vwch llethr mangoed
8 na chloch vwch nar och a roed
9 pa dwrw yw hwnn pedeiroch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llywelyn or syddyn serch
12 a roddes hwnn am Rydderch
13 vychan garllaw i lan lys
14 ffyddfrawd Rydderch ddiffoddfrys
15 och emlyn oi dyddyn dig
16 alaeth mamaeth am emig
17 och gwr a fai /n/ awch garv
18 i gar o fawr alar fv
19 y drydydd och gloch y glynn
20 lle ail a roes llywelyn
21 pann gavwyd saith gvddiwyd serch
22 gwin rhoddiad genav Rydderch
23 darfv gwnn in dierfir
24 benn dehevbarth wenn yn wir
25 darfv /r/ oes dirfawr o wedd
26 darfv dav arv dewredd
27 gorwyn alarch yngwarchae
28 gorwedd mewn i fedd i mae
29 natvr boen nid hwy yw /r/ bedd
30 syth drvdfalch na saith droedfedd
31 pregeth rhyfedd oedd weddv
32 dann hynn o dowerchyn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rodd gampvs Rydderch
37 ai gampav chwedl doniav dawn
38 ai lwyddiant ai olevddawn
39 [22] ai ras gyweithas ieithydd
40 ai glod och ddyfod i ddydd
41 trwst oedd oer trist ddavarv
42 trigaroc o y farchog fv
43 trigaredd ddi symlwedd serch
44 a roddo duw i Rydderch
Dafydd ap Gwilim