i ddvw
1 Credaf a wnaf i nefoedd
2 credo gall caredig oedd
3 dvw an ceidw rhag diriedchwaen
4 down oi blaid a dvw /n/ y blaen
5 rhoed ym nerth o bvrnerth bvr
6 ag angel a rhywgyngvr
7 i folianv yn gv gowair
8 Iesv a molianv mair
9 [39v] iawn i bawb ar bob awgrym
10 folianv dvw o flaen dim
11 da fvdd Iesv deddf oessiad
12 a dax yw i fam ai dad
13 gore tad llathr diathrist
14 o dade cred oedd dad crist
15 gwerin nef an cartrefo
16 gore mam yw i fam fo
17 gwarant fydd o bob gwir air
18 gore vn mab yw mab mair
19 gore merch dan avr goron
20 tecka a haela yw hon
21 da fv ddwyn deddf ddaioni
22 gwr o nef yn gar yni
23 hwn fv ddewis yr ysrael
24 hen yw ag ifank a hael
27 gwnaeth Iesv nef yw geraint
28 swrn yn y bostol ai saint
29 gwnaeth osber ag yfferen
30 gwnaeth oriav a llyfrav llen
31 rhoes gred ir bobl gyffredin
32 rhoes in plith gwenith a gwin
33 rhoes i gorff heb ddim fforffed
34 ar bren croes i brynv cred
35 deingeinawr deg o gonedd
36 hael Iesv i bv yn y bedd
37 [40r] gwedi kyfodi on kar
38 i gyrchv pawb o garchar
39 ar ol yr holl farfolaeth
40 fy nw fry ir nef y raeth
41 llei doyter medd sain sierom
42 croes dvw ag enwi crist ion
43 lle ni ddaw er kyffreidiaw ffrwyth
44 na diawl nag vn oi dylwyth
45 gair lles yw doydyd Iesv
46 gore vn gair gan fair fv
47 gair gariad yw or gadair
48 ar mab rrad a gad or gair
49 dvw ywr gair dioer gariad
50 ar gair yw dvw ar gwiw dad
51 dvw fon porth an kymhorthwy
52 Amen ag nid rhaid yn mwy
dauid ap Glm