H 26, 379–80   
   Tud: 1
    {ko: yr Iesu}
 
1    Credaf i naf o nefoedd
2    credo gwiwgall caredig oedd
3    dor aman ceidw rhac direidchwaen
4    dawn y blaid a duw'n y blaen
5    rhodded ym vaith berfaithi nerth befrwerth bor
6    rhac angen yrhuw gyngor
7    i volianv'n gu gywair
8    Iesu a molianv Mair
9    iawn i bawbyrhawc enw heb awgrim
10    molianv Duw ymlaen dim
11    da vv Iesu dewisiaddedf oesiad
12    a da oedd i vam ai dad
13    gorau tad llathr diathrist
14    o dadau Cred vv dad Christ
15    gwerin nef a'n cartrefo
16    gorau mam oedd i vam fo
17    gwarant vydd i vabyw ar bob gwirair
18    gorau vn mab yw mab Mair
19    gorau merch dan aur goron
20    tecaf a haelaf yw hon
   Tud: 2
21    [380] daoedd ddwyn deddf ddaioni
22    gwr onef yn gar i ni
23    hwn vv ddewis yr Israel
24    hen vv ag ivanc a hael
25    ganed oi vodd er goddef
26    yn ddyn aur ac yn Dduw nef
27    gwnaeth Iesu ner oi geraint
28    swrn yn Ebystyl a Saint
29    gwnaeth Bader ac offeren
30    gwnaeth oriau a llyvrau llen
31    rhoes gred i'r bobl gyffredin
32    rhoes oi plith gwenith a gwin
33    rhoes i gorph heb ddim forfed
34    ar ben croes i brynnu cred
35    deugeinawr deg ogonedd
36    hael Iesu y bu mewn bedd
37    gwedi cyvodi o'n car
38    i gyrchu pawb o garchar
39    ar ol yr oll verthnolaethyna n ol i varwolaeth
40    ir nef vry vy naf yr aeth
41    lle doter medd Sain Sieron
42    croes Duw a henwi Christ ion
43    ni ddaw heber ddifrydiaw frwyth
44    na diawl na neb oi duylwyth
45    gair lles yw dwedyd Iesu
46    a gorau vngair gan Vair vv
49    Duw yw'r gair diwyr gariad
50    ar gair yw Duw ynar gwir dad
51    Duw von porth an cynhorthwy
52    Amen ac nid rhaid yn mwy
 
    Dauid ap Gwilim