â â â Yr Eos a'r Frân
1â â â Gwae fi, o gariad gwiw fun,
2â â â Nad ytwyf yng Nghoed Eutun,
3â â â Lles nifer, ger llys nefawl
4â â â Lle y mae galluau mawl.
5â â â Ysgyndwr maen dan gaen galch,
6â â â Ysgynfa eos geinfalch,
7â â â Ys gwyr hi, hydr yw'n gormail,
8â â â Ysgwn daith dan ysgîn dail.
9â â â Main y cân, brif organ brudd,
10â â â Mên a threbl, mwyn ei thrabludd.
11â â â Croyw iawn fydd yn nydd a nos
12â â â Cref ddiledlef dda loywdlos,
13â â â Cathl wynfyd coeth lawenferch,
14â â â Canghenddring cainc sawtring serch.
15â â â Prid yw ei chof gan Ofydd,
16â â â Prydyddes, gwehyddes gwydd.
17â â â Agwyddor gain fireinfyw
18â â â O gôr dail i gariad yw.
19â â â Fal yr oeddwn heb ormail,
20â â â Yng nghwpl da yng nghapel dail,
21â â â Yn gwarandaw yn ddifreg
22â â â Efferen dan ddeilen deg
23â â â Gan laswyrwraig y cariad,
24â â â Gyneddfau mygr leisiau mad,
25â â â Nacha'r frân anwych ar frig,
26â â â Lafar, ysgyflgar, goflgig,
27â â â Yn dwyn rhuthr dan dinrhythu
28â â â I blas yr edn geinlas gu.
29â â â Glew dryphwng, nid gloyw drafferth,
30â â â 'Glaw! Glaw!' meddai'r baw o'r berth.
31â â â Sef gwnaeth, deuluwriaeth dail,
32â â â Yr eos fygr ar wyail,
33â â â Cynhewi a thristäu
34â â â Gan bres yr Iddewes ddu.
35â â â Llesteiriodd ym ddigrifwch,
36â â â Llaes ei phlu, â'r lleisiau fflwch.
37â â â Doeth yn ddianoeth ynof,
38â â â Duw a'i gwyr, nid â o gof,
39â â â Dychymig, bonheddig bwyll,
40â â â Rhag irdang, bu ragordwyll:
41â â â 'Ffull goluddion heb dôn deg,
42â â â Ffollach wegilgrach gulgreg,
43â â â Edn Eiddig, wyd anaddwyn,
44â â â Adref, ddrwg ei llef, o'r llwyn,
45â â â Cerdda at Eiddig, dy gâr,
46â â â Cyfliw mwsgl, cofl ymysgar.
47â â â Marw fu! Pan glywych weiddi
48â â â Yr ych dwn, nac eiriach di,
49â â â Na saf, yr edn gylfingrwn,
50â â â Na sor, gwna ar ei dor dwn.'
51â â â Credodd fy mod ar y gwir,
52â â â Crwydr arnai, gicai gecir.
53â â â Cefais gan lathr ei hasgell,
54â â â Loywswydd wiw, leisiau oedd well.