Yr Eos a'r Frân
Gwae fi, oherwydd cariad at ferch wych,
nad ydwyf yng Nghoed Eutun
(sy'n lles i liaws) ger llys nefol
4 lle y mae lluoedd clod.
Twr carreg uchel dan haen o wyngalch,
man esgyn eos hardd a balch,
mae hi'n gyfarwydd (nerthol yw'n gormes)
8 â thaith chwim dan fantell o ddail.
Soniarus y cân, prif organ ddoeth,
denor a threbl, yn addfwyn ei helynt.
Croyw iawn ddydd a nos
12 fydd ei llais da, eglur a chryf, gloyw a thlws,
cân lawn dedwyddwch merch lawen goeth,
un sy'n dringo'r canghennau yw alaw sawtring serch.
Gwerthfawr yw'r cof amdani gan Ofydd,
16 prydyddes, gwehyddes y coed.
Esiampl hardd, ysblennydd, fywiog
i gariad ydyw o gangell y dail.
Fel yr oeddwn heb orthrwm,
20 mewn siambr dda yng nghapel y dail,
yn gwrando'n ddidwyll
ar offeren dan ddeilen deg
gan gantores salmau cariad,
24 doniau lleisiau teg a gwiw,
dyna'r frân salw ar frigyn,
swnllyd, ysglyfaethus, giglyd ei mynwes,
yn rhuthro dan ledu ei chynffon
28 i le'r oedd yr aderyn llwyd hardd, annwyl.
Trinod garw, nid helynt llachar,
'Glaw! Glaw!', meddai'r fronten o'r berth.
Beth wnaeth (cwrteisi'r dail)
32 yr eos hardd ar frigau
ond tewi a thristáu
dan orthrwm yr Iddewes ddu.
Rhwystrodd fy mwyniant
36 (llaes oedd ei phlu) â'r lleisiau helaeth.
Daeth heb ddim syndod imi -
Duw a wyr, nid anghofiaf mohono -
syniad (meddwl bonheddig)
40 rhag braw, bu'n dwyll rhagorol:
'Y coluddion brysiog heb alaw deg,
y bwten dew, grachlyd ei gwegil, lom a chryg,
aderyn Eiddig ('rwyt yn annymunol),
44 dos adref o'r llwyn, yr un ddrwg ei llais,
at Eiddig, dy berthynas,
un o liw cragen las, llwyth o berfeddion.
Bu ar farw! Pan glywi'r ych cochddu
48 yn gweiddi, paid ag ymatal,
paid ag oedi, yr aderyn crwm ei big,
paid â digio, gwna glwyf yn ei fol.'
Credodd fy mod yn iawn,
52 melltith arni, y sglaffiwr cig â'r gwddw hir.
Cefais gan yr un ddisglair ei hasgell
(swydd loyw deilwng) leisiau gwell.