Marwnad Rydderch ap Evan llwyd Ogerddan
1 Doe klowais mi a geissiais gel
2 Dair och ar lethr dir vchel
3 ni feddyliwn gwn ganoch
4 y rhoe fyth wr rhyw fath och
5 ni bv in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif kwyn na llef kynydd
7 meingorn vwch llethr mangoed
8 na chloch ywch nor och a roed
9 Pa dwrw yw hwn pryderoch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llywelyn or syddyn serch
12 a roddes hon am Rydderch
13 Vychan gar llaw i lan lys
14 ffyddfrawd Rydderch ddiffoddfrys
15 Och erlyn oi dyddyn dig
16 alaeth mamaeth am emig
17 Och gwr a fae n awch garv
18 i gar o fawr alar fv
19 y drydedd och gloch or glyn
20 oll yw alar llywelyn
21 Pann guddiwyd syn freyddwyd serch
22 gwin roddiad genau Rydderch
23 Darfu gwn im di erfir
24 benn deheubarth wen yn wir
25 [300] darfv r oes dirfawr i wedd
26 darfv daiarv dewredd
27 gorwyn alarch yngwarchef
28 gorwedd mewn maenfedd mae ef
29 nattvr boen nid hwy ywr bedd
30 syth drvdfaeth na saith droedfedd
31 pregeth ryfedd oedd weddv
32 dan hyn o dywerchyn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rodd gwampvs Rydderch
37 Ai gampau chwedl ddoniau ddawn
38 ai loywddysg ai oleyddawn
39 Ai ras gyweithas iaithydd
40 ai glod och ddarfod i ddydd
41 Trwst ddoe oer trist ddavarv
42 trigarog o farchog fv
43 Trigaredd drwy symlwedd serch
44 A roddo duw i Rydderch
Davydd ap Gwilym