marwnad Rydderch ap ifan llwyd
1 Doe klowais mi a geisiais gel
2 dair och ar lethr dir vchel
3 ni feddyliwn gwnn gannoch
4 i rhoe fyth wr rhvw fath och
5 ni bv in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif kwyn na llef kynydd
7 na meingorn vwch llethr mangoed
8 na chloch vwch nar och a roed
9 ba dwrw yw hwnn pedeiroch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llywelyn or syddyn serch
12 a roddes honn am Rydderch
13 vychan garllaw i lan lys
14 ffyddfrawd Rydderch ddiffoddfrys
15 och ymlyn oe dyddyn dig
16 galaeth mamaeth am emig
17 och gwr a fai n awch garv
18 i gar o fawr alar fv
19 ar drydedd och gloch y glynn
20 lle ail a roes llywelyn
21 penn gavwyd saith gvddiwyd serch
22 gwin rhoddiad genav Rydderch
23 Darfv gwnn in dierfir
24 benn dehevbarth wenn yn wir
25 Darfv /r/ oes dirfawr o wedd
26 Darfv davarv dewredd
27 gorwyn alarch yngwarchae
28 gorwedd mewn maenfedd y mae
29 [385] natvr boen nid hwy yw/r/ bedd
30 syth drvdfalch na saith droedfedd
31 pregeth rhyfedd oedd weddv
32 dann hynn o dywerchynn dv
33 gwybodav synhwyrav serch
34 gwmpas rhodd gampvs Rydderch
35 ai gvwdawd ddigollwawd gall
36 ai gryfgorff gwynn digrifgall
37 ai gampav chwedl doniav dawn
38 ai lwyddiant ai olevddawn
39 ai ras gyweithas ieithydd
40 ai glod och ddyfod i ddydd
41 trwst oedd oer trist ddavarv
42 trigarog o farchog fv
43 trigaredd ddisyml wedd serch
44 a roddo dvw i Rydderch
Dafydd ap gwilym