â â â Yr Eos
â â â DAFYDD AP GWILYM
1â â â Madog ap Gruffudd wyddaer,
2â â â Medry aur glod, mydrarf glaer,
3â â â Cynnydd Morda' neu Rydderch,
4â â â Canwyr y synnwyr a'r serch,
5â â â Cywirach oeddud no neb,
6â â â Cyweirdant y cywirdeb.
7â â â Ti a ddaethost at Ddafydd
8â â â Ap Gwilym â gwawd rym rydd.
9â â â Ai cof oll ein cyfeillach
10â â â A'n cwyn am y bedwlwyn bach?
11â â â Amau'r wyf fi ei ddiosg
12â â â Heb ymladd, heb ladd, heb losg
13â â â O Eiddig-oerfel iddaw!-
14â â â Â'i gaib-wb o'i raib!-a'i raw.
â â â MADOG BENFRAS
15â â â Afraid yw yt ddaly trymfryd
16â â â Am bren na bedwen o'r byd
17â â â Tra atai Dduw y celyn.
18â â â Nis llysg ac nis diysg dyn,
19â â â Ac er a ddêl a ddrycin
20â â â Ni bydd llwm na chrwm na chrin.
â â â DAFYDD AP GWILYM
21â â â Ti a gwynud, dioer, yn llwyr
22â â â Be darffai yt, byd orffwyr,
23â â â A ddarfu ym, mau lym lid,
24â â â Nod mwy ofn, neud mau ofid.
25â â â Nid oedd ym o ddiddanwch
26â â â Na dyhuddiant, trachwant trwch,
27â â â Na cherdd ar fedwen wen wiw
28â â â Ond eos loywdlos lwydliw.
29â â â Ef a beris gwr o'm gwlad
30â â â Ei thitio ond aeth atad.
31â â â Synia arnei os gwely,
32â â â Ystofwraig mydr gaer hydr hy.
33â â â Serchog y cân dan y dail
34â â â Salm wiw is helm o wiail.
35â â â Deholwraig, arfynaig fwyn,
36â â â Da ffithlen mewn diffeithlwyn,
37â â â Cloch aberth y serchogion,
38â â â Claer, chweg a theg yw ei thôn.
39â â â Bangaw fydd ei hunbengerdd
40â â â Ar flaen y wialen werdd,
41â â â Borewraig serch, ferch firain,
42â â â Burddu drem uwch byrddau drain;
43â â â Chwaer Guhelyn, befrddyn bach,
44â â â Chwibanogl chwe buanach,
45â â â Meistres organau Maestran,
46â â â No chant, o'r cildant y cân.
47â â â Ni adewis yng Ngwynedd
48â â â Er pan aeth-ond waethwaeth wedd?-
49â â â Lladrones bach llwyd ronell,
50â â â Llatai; ni weddai un well.
â â â MADOG BENFRAS
51â â â Poed ar ddôr y pilori,
52â â â -Amen!-fyth y mynnaf fi,
53â â â Y doter gynifer un
54â â â A'i ditiodd yng Nghoed Eutun.
â â â DAFYDD AP GWILYM
55â â â Yn y fro, tra fynno trig,
56â â â Yno deil y Nadolig.
57â â â Bydd serchocaf lle y bo.
58â â â Da gutorn, Duw a'i gato!