Nodiadau : 1 - I'r Grog o Gaer

Fersiwn hwylus i

Ysgrifennwyd yr englynion hyn mewn gofod gwag yn Llawysgrif Hendregadredd gan un o'r llawiau a fu'n ychwanegu cerddi pan oedd y llawysgrif yng nghartref Ieuan Llwyd yng Nglyn Aeron yn ystod ail chwarter y bedwaredd ganrif ar ddeg (Huws, 2000, 207–13, 221–2). Mae'r testun wedi dirywio'n arw oherwydd ansawdd gwael yr inc a ddefnyddiwyd, ac mae'n annarllenadwy mewn sawl man. Collwyd rhai englynion hefyd pan dociwyd y tudalennau wrth ailrwymo'r llawysgrif, ac mae'n debyg mai cyfres o 50 oedd hon yn wreiddiol. Mae'n amlwg bod y testun mewn cyflwr gwael pan gopïodd John Davies gynnwys Llawysgrif Hendregadredd ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, oherwydd chwe llinell gyntaf y gerdd yn unig a geir yn ei gopi yn BL 14869. Nid oes ffynhonnell arall sy'n annibynnol ar Lawysgrif Hendregadredd, ac felly fe erys y testun yn fylchog.

Teitl y gerdd yn Llawysgrif Hendregadredd yw 'Eglynyon a gant dauid llwyd uab gwilim gam yr groc o gaer'. Dyma'r unig enghraifft yn y llawysgrifau o enw llawn y bardd (er bod rhai beirdd diweddarach yn cyfeirio ato fel mab Gwilym Gam). Roedd Dafydd ap Gwilym yn gyfarwydd iawn â chartref Ieuan Llwyd, fel y dengys ei farwnad i Angharad (9) a'i ffug-farwnad i'w mab Rhydderch (10). Mae'n bosibl, felly, mai llaw Dafydd ap Gwilym ei hun yw hon. Textura yw'r sgript, a dyna a ddisgwylid gan un a ddysgai ysgrifennu yn Ystrad-fflur tua 1330. Mae'r ysgrifen braidd yn anghyson ac anystwyth, ac mae'n amlwg nad yw'n llaw ysgrifydd proffesiynol. Ysgrifen redol brofiadol a geir yn y ddau destun cyfoes arall o gerddi Dafydd, sef 'Marwnad Angharad' (9) ar dudalen olaf Llawysgrif Hendregadredd, ac 'Englynion y Cusan' (84) yn Llyfr Gwyn Rhydderch. O'r tri thestun, hwn yw'r un mwyaf tebyg o fod yn llaw'r bardd ei hun ym marn Daniel Huws (2000, 221–2). Ac o ran ansawdd y testun gallai'r gerdd hon fod yn llaw'r bardd ei hun (ond sylwer ar y gwallau yn llau. 92 a 143 ac o bosibl 16 a 111). Ond ni ellir profi hynny, a rhaid i'r mater aros yn bosibilrwydd yn unig.

Ni chynhwyswyd y gerdd hon yn GDG. Prif reswm Thomas Parry dros ei gwrthod yn y lle cyntaf oedd y ffaith mai Dafydd Llwyd yw enw'r bardd (GDG1 xiii). Ond mewn gwirionedd, er na chyfeirir at Ddafydd ap Gwilym wrth yr enw hwnnw yn yr un llawysgrif arall, mae enghreifftiau yng ngherddi Dafydd ei hun o'r ansoddair 'llwyd' yn disgrifio'r bardd (e.e. 137.29). Erbyn yr ail argraffiad roedd Parry wedi newid ei farn (GDG2 xix, 556; gw. hefyd Y Casglwr 15 (1981), 5), ond ni fanteisiodd ar y cyfle i ychwanegu'r gerdd i'r canon, yn ôl pob tebyg oherwydd cyflwr diffygiol y testun. Golygwyd y gerdd am y tro cyntaf gan Ann Parry Owen yn Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill (Aberystwyth, 1996), tt. 51–91, ac mae'r golygiad hwn yn ddyledus iawn i'w gwaith hi.

Cymerai Parry yn ganiataol mai Caerlleon (Chester) yw Caer yn y gerdd hon, ac mae hynny'n ddigon dealladwy o ystyried bod nifer o gerddi adnabyddus i grog enwog y ddinas honno gan feirdd o gyfnod Gruffudd ap Maredudd ymlaen. Ond o graffu ar y testun gwelir yn glir mai Caerfyrddin yw hon, gan fod yr enw llawn yn digwydd ddwywaith a bod enw afon Tywi i'w gael yn y trydydd englyn. Er na ddefnyddir yr enw Caer am Gaerfyrddin bellach, mae'r ymadrodd 'Sir Gâr' yn ddigon o brawf bod y defnydd hwnnw wedi bod yn gyffredin ar un adeg, ac fe geir digon o enghreifftiau yng ngwaith Lewys Glyn Cothi (gw. GLGC t. 667). Mae'n bosibl mai'r enw lle sydd ym 'Marwnad Angharad' (9.29), er mai 'difrifaf goreufun yng nghaer' a argraffwyd yn GDG. A chan fod Caerfyrddin yn un o brif ganolfannau'r fasnach wlân, mae'n debygol mai o'r dref honno y daeth yr 'hosanau cersi o Gaer' y sonnir amdanynt yn 'Y Pwll Mawn' (59.38).

Nid 'yn hanfod o Gaerfyrddin' yw ergyd yr arddodiad yn nheitl y gerdd yn y llawysgrif, ond yn hytrach 'yn perthyn i Gaerfyrddin drwy fod wedi'i lleoli yno' (gw. GPC 2606, s.v. o1 2. (c)). Mae'n amlwg bod y grog hon wedi'i lleoli mewn sefydliad eglwysig y tu fewn i furiau tref Caerfyrddin. Sylwer yn enwedig ar teml (43), tŷ a phlas (162), a cysegrblas (28), a gw. nodyn 28 isod ar plas. Felly nid y groes yn sgwâr y farchnad o flaen y castell oedd hon, nac ychwaith y croesau yn Heol y Priordy a Heol Awst y tu allan i furiau'r dref. Un posibilrwydd yw capel y castell, ond capel preifat fyddai hwnnw, a chan fod tipyn o bwyslais yn y gerdd ar bobl yn teithio i addoli'r grog (gw. 83–4, 124, 128 a 140) mae'n annhebygol ei bod mewn capel o'r fath. Lleoliad mwy tebygol iddi yw Eglwys y Santes Fair, capel rhydd a godwyd ar gyfer trigolion y dref yn y drydedd ganrif ar ddeg ger sgwâr y farchnad (gw. Terrence James, Carmarthen: An Archaeological and Topographical Survey (Carmarthen, 1980), 36–7). Fe'i gelwir yn 'capelle Sancte Crucis de Kerm'dyn' yn 1401 (The Episcopal Registers of the Diocese of St David's 1397–1518, I (London, 1917), 240) ac yn 'Rode Church', eglwys y grog, yn 1546 (Arch Camb lxxxix (1934), 139). Gallai'r enw hwnnw gyfeirio at groes y farchnad gerllaw, neu at grog yn yr eglwys ei hun. Mae'n wir na nodir unrhyw grog yn y rhestr o eiddo'r capel a wnaed yn 1548 (gw. J. T. Evans, The Church Plate of Carmarthenshire (London, 1907), 118), ond gan fod lle i gredu mai crog gludadwy oedd hon ni fyddai'n syndod ei bod wedi diflannu erbyn cyfnod y Diwygiad Protestannaidd.

Dywedir yn yr englyn cyntaf mai crog bedwarban oedd hon, hynny yw crog ac iddi bedwar pwynt. Mae'n debyg, felly, ei bod wedi'i gosod ar sgrin yn yr eglwys (gw. Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol t. 168–71 am ymdriniaeth â chrogau o'r fath). Fe'i gelwir yn ddelw nifer o weithiau, ac felly gellir casglu bod delw o Grist arni, sef y Crist buddugoliaethus mae'n debyg (gw. nodyn 118 isod). Delw fyw oedd hon (gw. 22 etc), hynny yw credid ei bod ar adegau yn llefaru neu'n ymddwyn fel bod dynol (gw. GPC 927). Roedd wedi'i goreuro, ac efallai fod gemau wedi'u gosod arni. Sonnir yn ll. 109 am mynog ball eurog, sef mantell euraid, a wnaed gan Saeson ar gyfer y grog. Mae'n debyg mai colobium oedd hwn, sef gwisg litwrgïol a ddefnyddid i addurno delwau o Grist (gw. nodyn M. P. Bryant-Quinn, GIBH 161–2, ar 'bais' crog Aberhonddu). Gallai fod mwy nag un wisg gan grog, ac mae'n bosibl bod hyn yn gyfeiriad penodol at yr arfer o wisgo llen ddisglair ar grogau ar ddydd Iau Cablyd i ddathlu buddugoliaeth Crist. Mae defodau'r Pasg yn sicr yn berthnasol i'r gerdd hon, ac fe ddichon mai at wasanaeth anrhydeddu'r grog ( veneratio crucis) ar ddydd Gwener y Groglith y cyfeirir wrth sôn am salmau o fawl i'r grog (88) ac am addoli ar ddeulin o'i blaen (89, 93).

Diau mai amcan ymarferol y gerdd hon oedd lledaenu bri'r grog er mwyn denu pererinion a fyddai'n dod ag elw i'r eglwys lle cedwid hi. Mae'n debyg mai at elw o'r fath y cyfeirir yn llau. 161–2. Nid oes angen chwilio am noddwr seciwlar iddi felly, ond efallai ei bod yn berthnasol nodi bod Syr Rhys ap Gruffudd, perthynas o bell i Ddafydd, yn gwnstabl Castell Caerfyrddin yn 1335. Tybed a gomisiynwyd y gerdd hon gan Syr Rhys er mwyn dyrchafu bri'r dref? Gogleisiol hefyd yw'r cyfeiriad posibl at Gaerfyrddin a nodwyd uchod ym 'Marwnad Angharad', gwraig Ieuan Llwyd. Os oedd Angharad wedi mynd i Gaerfyrddin i addoli'r grog, gallai hynny esbonio pam y cadwyd copi o'r gerdd hon mewn llawysgrif yn ei chartref.

1. aberth   sef marwolaeth Crist ar y groes, a hefyd efallai wasanaeth yr offeren a gynhelid yn yr eglwys.

3. eirglaer   Tybiai Owen mai eiry yw'r elfen gyntaf yn yr enghr. hon a'r un yn 47 isod, ond mai gair yw'r elfen gyntaf yn 114. Haws cymryd mai gair sydd ym mhob un, gan gyfeirio at fri y grog. Cymh. crair croywgain air yn 52 isod.

4. crog bedwarban   gw. nodyn rhagarweiniol uchod.

Caer   Mae'n bosibl mai enw cyffredin yn cyfeirio at y castell neu'r dref gastellog yw hwn yma ac mewn mannau eraill yn y gerdd.

5. arawl   Bôn y gair yw hawl, ac fe ymddengys fod y bardd yn synied am ei gerdd fel gweddi neu ble i'r grog, cymh. dadl ddeulin yn 93 isod.

8. cyfrestrfylch   Mae'r ddwy lythyren gyntaf yn annarllenadwy yn y llawysgrif, ac felly hefyd air olaf y llinell, ond ni all fod fawr o amheuaeth ynghylch y darlleniad, gan fod y synnwyr yn gofyn am Caer fel prifodl, a'r gynghanedd sain yn gofyn am air yn dechrau â c. Ansoddair yw hwn yn disgrifio amgylch, gan gyfeirio at y rhesi o fylchau ar ben muriau'r castell.

10. aglaer   Hon ac aglaerddelw yn 81 isod (lle mae'r gynghanedd yn profi'r ffurf) yw'r unig enghrau o'r gair hwn. Cymerir mai ffurf gryfhaol ar claer yw hon, er na nodir y gair yn GPC2. Ond disgwylid achlaer (cymh. achas etc).

11.   Byddai llathrfalch yn gwneud y tro fel gair cyntaf y llinell.

15. faen   Darllenodd Owen 'uaet'.

16. fylch   Mae'r gair hwn wedi'i orchuddio gan staen. Cynigir y darlleniad hwn am ei fod yn fodd i lunio cynghanedd sain ddwbl.

lludw   Gellid derbyn yr ystyr 'llwch' yn symbolaidd am edifeirwch, fel yr awgrymodd Owen, ond er bod y thema honno'n berthnasol i'r gerdd gyfan, nid ymddengys yn briodol yng nghyd-destun y llinell hon. Gwell, felly, yw cymryd hon fel ffurf amrywiol ar (neu'n wall am) llydw, 'llu' (cymh. 9.60), gan gyfeirio at y milwyr ar furiau'r castell, neu at drigolion y dref. Ond os gwall ysgrifennu sydd yma, dylid ystyried hefyd yr ansoddair lledw, 'helaeth' (cymh. 17.45).

19. traaer   Dilynir awgrym Owen wrth ddehongli hyn fel adferf ar lun tramor, ac aer yn yr ystyr 'maes cad'.

23.   Awgrymodd Owen ar sail ystyr a chynghanedd mai cennad yw'r gair sy'n annarllenadwy yn y llinell hon. Efallai mai ke yw'r ddwy lythyren gyntaf.

26.    Darllenodd Owen 'ganddu ... gwyn[n].ieith' ar gyfer y llinell hon, ond ni lwyddwyd i ddarllen ond y pum llythyren gyntaf yn unig.

27. celfydd   Dim ond uyd sy'n ddarllenadwy yn y llawysgrif, ond mae cymeriad a chynghanedd yn sicrhau'r darlleniad hwn.

28. cysegrblas   Mae plas yn fenthyciad o'r Ffrangeg place (trwy'r Saesneg Canol efallai), ac roedd iddo ddwy ystyr o'r cychwyn, sef 'plasty, llys' a 'lle (agored)'. Ceir y ddwy ystyr yng ngherddi DG, er bod rhai enghreifftiau'n amwys. Enghraifft ddigamsyniol o'r ystyr 'lle agored' yw 'o blas i blas . . . o lwyn i lwyn' yn 'Y Ceiliog Bronfraith' (49.23). Fe ymddengys mai 'plasty' yw'r ystyr yn 'Y Breuddwyd', 'Teg blas, nid tŷ taeog blwng' (79.10). Yma mae'r ansoddair cysegr yn awgrymu'n gryf mai sefydliad eglwysig a olygir, sef yr eglwys neu'r capel lle cedwid y grog (gw. nodyn rhagarweiniol uchod). Mae'n amlwg yn gyfystyr â yn ll. 162 isod. Cymerir mai'r un yw'r ystyr yn 36 ac 166, ond mae 'lle' yn bosibl yn 55 a 173.

32. crair   Ni ellir darllen y gair hwn yn y llawysgrif, ond mae ystyr, mydr a chymeriad yn ei wneud yn weddol sicr.

33. gloywfron lyfr Biblglaer   Cymherir y grog â chlawr addurnedig llyfr efengyl, gw. Lord, 2003, 25. Ffurf dreigledig Pibl sydd yma, cymh. ll. 114 isod.

34. drwyadl ddadl ddidaer   Ceir yr un ymadrodd yn union yn ll. 45 isod, a chymh. dadl . . . didaer yn 23 uchod. Anodd gwybod beth yn union yw ystyr dadl yma. Dosbarthwyd yr enghreifftiau hyn dan yr ystyr 'dadl, ple' yn G 285, a dilynodd Owen hynny gan ei ddeall yn gyfeiriad at weddi'r bardd am faddeuant. Gellir cymharu defnydd Gruffudd ap Maredudd o'r gair yn ei awdl i Grog Caer, GGMD II, I.24, 'Dadl ysbrydawl o'r geiriau mawl i'r Gŵr a'n medd'. Ond mae cyd-destun y tair enghraifft hyn yn awgrymu mai at y grog ei hun y cyfeirir, ac mae'r enghreifftiau eraill o'r ansoddair didaer yn disgrifio'r grog (2, 17, 27). Os felly, 'hanes, helynt' yw ystyr fwyaf priodol dadl (gw. GPC 870). Cymh. 136.16, ac efallai 33.8. Mae'r ystyr honno hefyd yn bosibl yn 'Englynion y Cusan' (84.11), er mai 'meeting' yw cyfieithiad R. Geraint Gruffydd yn CMCS 23 (1992), 5.

36. carueiddblas   gw. nodyn 28 uchod.

37. aneuog   Dehonglodd Owen ddarlleniad y llawysgrif, aneuawc, fel anewog, gan ei gysylltu â'r enw anaw, 'cyfoeth' (ond gan gydnabod na ddisgwylid i'r terfyniad -og beri affeithiad). Ond nid oes angen hynny, gan fod y gair hwn (a geir gan William Salesbury, gw. GPC 113) yn rhoi ystyr dderbyniol ac yn cyd-fynd â'r pwyslais thematig ar y cyferbyniad rhwng daioni ysbrydol y grog a grym milwrol y dref gastellog.

39.    Cynigiodd Owen ddarllen 'deruyd.ut' ar ddechrau'r llinell hon.

43. Deifr   o'r enw lle Deira, hen deyrnas Sacsonaidd yng ngogledd Lloegr, daeth hwn yn enw ar y Saeson yn gyffredinol. Bwrdeistref Seisnig oedd Caerfyrddin, fel y dywedir yn blaen yn ll. 50 isod.

47. geirglaer   gw. nodyn 3 uchod.

53. ffloywfrain[ ]   Mae'n debyg mai braint yw ail elfen y gair cyfansawdd hwn.

55. plas   gw. nodyn 28 uchod.

61. Peryf   Er na ellir darllen y ddwy lythyren gyntaf, nid oes amheuaeth ynghylch y darlleniad oherwydd y cymeriad. Cymh. ll. 81 isod. Digwydd y gair yn fynych yng ngherddi'r Gogynfeirdd am Grist neu Dduw.

62. mal   Dim ond ma sy'n ddarllenadwy yn y llawysgrif, ond mae'r dyfaliad rhesymol hwn yn rhoi synnwyr boddhaol.

66.   Dilynwyd dehongliad Owen o ddarlleniad y llawysgrif, egoryat gwyr[ ]h y gwyneir. Cymerir bod egoriad yn drosiad am y grog, a bod yr yn traethiadol wedi'i hepgor. Gellid deall gwyneir fel gwyn 'sanctaidd'+gair, ond anodd gweld sut y byddai hynny'n gweithio'n gystrawennol.

68. dwygerdd   Efallai fod hwn yn gyfeiriad at y gerdd hon a'i chyfeiliant cerddorol, hynny yw cerdd dafod a cherdd dant. Cymh. disgrifiad Lewys Daron o Dudur Aled fel 'pencerdd y ddwygerdd agos' (GLD 25.47).

69. ni drem   Cymerir mai'r ferf dremu, 'edrych, gweld', sydd yma. Ar y defnydd o ferf unigol mewn cymal perthynol lle disgwylid berf luosog gw. CBT I, t. 95 (nodyn ar 3.141, Ny wtant vanueirt ny mawr gynnyt, Meilyr Brydydd).

i'r   Amwys yw ffurf y llawysgrif, yr, a dehonglwyd honno fel er gan Owen. Nid yw'r gystrawen yn gwbl glir y naill ffordd na'r llall, ond cymerir mai Gwnaeth hon i'r deillion (fod) fal y dremwalch yw'r brif frawddeg.

70. mudair   Elfen gyntaf y gair hwn yw mud, sef enw ar y cawell lle byddai hebog yn bwrw ei blu, ac yna ansoddair am hebog wedi bwrw ei blu. Ystyr hwn felly yw 'yn ei lawn blu, aeddfed', gw. GPC 2500, ac ymhellach B. L. Jones, 'na golwc hebawc mut, na golwc gwalch trimut: WM 476', B xxiii (1968–70), 327–8.

74. crapach   ffurf amrywiol ar crepach, 'gwywedig'. Nodir yn GPC 592 mai hon yw'r ffurf lafar yn y de, a crepach yn y gogledd.

Dwy   sef 'Duw', cymh. 58.48.

76. ar restr   Ffurf y llawysgrif yw arestyr, a gellid ei deall fel a rhestr.

ffair   Cymerir mai ffair1 'marchnad' sydd yma, ond nid amhosibl mai ffair2, yr ansoddair 'teg, prydferth, gwych, rhagorol' yw hwn, gw. GPC 1275 a chymh. 60.33.

81. aglaerddelw   Ar aglaer gw. nodyn 10 uchod.

83–4.   Cymerir mai gorau taith yw gwrthrych gŵyr. Cymh. 58.13, 'Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed'. Ond sylwer ar aralleiriad Owen, 'Gŵyr pob gradd [o ddyn mai] llesol yw naddiad [y] fwyall'.

87. bryf   benthyciad o'r Saesneg Canol breve, 'brief', gw. GPC 339 a chymh. GLlGMH 8.6. Ystyr sylfaenol y gair oedd cofnod ysgrifenedig, ac felly swyddogol ac awdurdodol. Fe'i defnyddid yn aml mewn cyd-destun eglwysig, er enghraifft am lythyrau'r Pab ac am y credlythyrau a roddid i frodyr-bregethwyr. Mae'n debyg felly mai dogfen ysgrifenedig yn rhoi awdurdod i faddau pechodau a olygir.

88. seilm   lluosog salm. Efallai mai canu eglwysig yn gyffredinol a olygir, ond gallai hyn fod yn gyfeiriad penodol at y saith salm benydiol. Tybid yn yr Oesoedd Canol mai'r Brenin Dafydd oedd awdur holl salmau'r Beibl, ond gan fod sôn am ei fab Solomon yma, mae'n werth nodi bod deunaw o salmau apocryffaidd yn cael eu cysylltu ag enw Solomon (gw. The Oxford Dictionary of the Christian Church, t. 1288).

gwiwdeml Selyf   Roedd Solomon yn gyfrifol am godi teml ysblennydd yn ninas Jerwsalem, ac mae'n debyg mai'r awgrym yw bod y sefydliad lle cedwid y grog, Eglwys y Santes Fair efallai, yn debyg i'r deml honno.

89–91.    Darllenodd Owen 'ue..[.]' yn y gair cyrch, ac '.atwyf' ar ddechrau 90.

91. gwehynfawl gwin   Elfen gyntaf y gair cyfansawdd yw bôn y ferf gwehynnu, 'tywallt'. Efallai fod hwn yn gyfeiriad at win y cymun. Cymh. drefn myrr a gwin yn ll. 97 isod.

92. Myrddin   Y ffurf dreigledig uyrdin a geir yn y llawysgrif, ond rhaid diwygio er mwyn y gynghanedd draws. Fe ymddengys fod cenedl trefn yn amrywio yn y cyfnod canol. Gwrywaidd ydyw yn GIG V.87, trefn goleuryw, ac er mai benywaidd ydyw yn nhestun 104.13, wiwdrefn wych, sylwer mai gwiwdrefn gwych a geir yn Pen 49. Mae'r cyfeiriad hwn yn adlewyrchu'r gred boblogaidd mai enw personol oedd ail elfen yr enw lle Caerfyrddin. Cymh. GIG VII.44, yng Nghaer fardd Emrys. Gw. ymhellach A. O. H. Jarman, 'The Legend of Merlin and its Associations with Carmarthen', Carmarthenshire Antiquary xxii (1986), 15–25.

99.    Darllenodd Owen 'uawrin' ar ddiwedd y llinell, a dysgfawr rin yn ei thestun, gan roi cynghanedd sain bengoll, ond mae'r llinell yn brin o sillaf.

103. berwloyw   Yng nghyswllt barddoniaeth roedd berw yn cyfleu'r weithred o gyfansoddi neu o ganu cerdd. Cymh. 31.87, 36.46, ac yn enwedig 8.40, 'Y cân eddylwas ferw Cynddelwaidd.'

99.    Darllenodd Owen 'kytualch greir'.

106. awduriaid   Awgrymodd Owen mai noddwyr y gerdd a olygir (gw. GPC 239). Posibilrwydd arall yw mai awdurdodau, rhai sy'n gymwys i farnu cerdd a olygir.

109. pall eurog   gw. nodyn rhagarweiniol uchod.

111. llëygrwybr   Mae llafariad gyntaf y gair yn aneglur yn y llawysgrif, gallai fod yn e neu'n o. Cymerodd Owen mai o sydd yno, a dehonglodd y ffurf fel Loegrwybr. Ond mae hynny'n gadael y llinell sillaf yn fyr, ac ni ddisgwylid gweld yr un gair ar ddechrau dwy linell yr esgyll. Gwell, felly, yw cymryd mai llëyg yw elfen gyntaf y gair cyfansawdd hwn, gan gyfeirio at drigolion y dref, neu at filwyr y garsiwn, mewn cyferbyniad â chyd-destun eglwysig y grog. Cymerir mai crwybr, 'barrug', yw'r ail elfen, gan gyfeirio at liw gwyngalch muriau'r castell. Ond rhaid cyfaddef bod dwy elfen y gair braidd yn ddigyswllt o ran ystyr. Ceid gwell cydweddiad rhwng y ddwy o gymryd mai llai, 'llwyd, yw'r elfen gyntaf, ond ni cheir ey ar gyfer y ddeusain ei yn unman arall yn y testun, a byddai'r llinell yn fyr eto fodd bynnag. Gellid cywiro hyd y llinell trwy ddarllen ddilewygryw, 'math heb newyn'.

ddilwygryw   di- + bôn y ferf llwygo, 'methu', + rhyw. Mae'n llai tebygol mai cryw, 'basged', yw'r elfen olaf. Ond efallai y dylid darllen dilewygryw, gw. nodyn uchod.

112. Lloegrig   Ni nodir y gair yn GPC, ond mae'n ffurf ansoddeiriol reolaidd o'r enw Lloegr.

114. Pibl eirglaer   gw. nodiadau 3 a 33 uchod.

erglyw   Yn GPC 1232 rhoddir enghraifft gan Ieuan ap Rhydderch (= GIRh 7.75) o fôn y ferf erglywed yn gweithredu fel enw, 'gwrandawiad'. Ond berfenw yw hwn yn ôl G 485.

118. erchyll   lluosog archoll, 'clwyf'. Awgryma'r llinell hon mai Crist buddugoliaethus a bortreedid ar y grog, ac olion ei glwyfau wedi'u dileu.

127. na wydiaf wawdiaith   Deellir hyn yn wrthrych mynnaf, a chymerir bod llinell olaf yr englyn yn cwblhau cystrawen sy'n cychwyn yn rhan annarllenadwy y llinell gyntaf. Cymh. ni wydiais wawd, 118.9.

129. -Usalem   Rhaid mai trychiad sydd yma, a bod rhan gyntaf yr enw, Caer, ar ddechrau'r llinell.

134. farddawdd   Dilynir GPC 1350 a G,'Rhai Ychwanegiadau a Gwelliannau yn Rhannau I a II' (o flaen t. 481) wrth gymryd mai ffurf 3 un. gorff. y ferf barddu yw hon, er na cheir enghr. arall o'r ferf honno. Gan fod d ar ddiwedd gair yn cynrychioli dd yn gyson yn y testun hwn mae'n llai tebygol mai barddawd 'barddoniaeth' sydd yma, fel y tybiai Owen. Mae Dafydd yn cymharu ei gerdd â gwaith Myrddin y Cynfardd (cymh. 45.23). Tybed ai arwyddocâd chwŷl pobiaith yw bod proffwydoliaethau Myrddin yn cylchredeg yn Lladin, Ffrangeg a Saesneg yn ogystal â Chymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg?

136. breinfryw   brain(t) + bryw, 'grymus', gw. G 74.

141.    Darllenodd Owen nenn yn lle neun, ond mae modd gwahaniaethu rhwng u ac n yma. Ar y geiryn rhagferfol neu gw. GPC 2575.

ein gognwd   Diwygiodd Owen ddarlleniad y llawysgrif, yn gocnwt i yn ognwd, gan ei gymryd yn enghraifft o beidio â dangos treiglad yn yr orgraff. Ond gan fod y rhagenw person cyntaf lluosog yn digwydd ddwywaith yn rhan gyntaf y llinell, haws cymryd mai dyna sydd yma hefyd. Yr ergyd yw mai cerydd yw haeddiant y ddynoliaeth.

142. gwawtffrawdd   Dilynir G 635 wrth ddeall hyn yn ansoddair, ond cymerodd Owen mai enw, 'angerdd barddoniaeth', yw hwn.

143. a'n dewr   Darlleniad y llawysgrif yw a dewr. Dilynwyd awgrym Lloyd-Jones, G 322, wrth ddiwygio er mwyn y gynghanedd a'r ystyr.

147. dwysgenw   Cymerodd Owen hyn fel dau air ar wahân, ond gair cyfansawdd a geir yn y llawysgrif, a chan fod yr ystyr braidd yn aneglur gwell cadw at hynny. Cymh. twysgliw yn cyfeirio at yr heulwen yn 54.67. Fe ymddengys mai ystyr sylfaenol twysg oedd llifeiriant neu swm mawr wedi'i grynhoi, gw. GPC 3667. Yr ergyd yma, felly, yw bod enw neu glod y grog wedi tyfu'n fawr.

149. berw   gw. nodyn 103 uchod.

149. awgrim   benthyciad o'r Saesneg Canol augrim, gair a darddai o enw'r rhifyddwr Arabaidd Al-Khowarazmi, ac a olygai'r gyfundrefn Arabaidd o gyfrif, arwyddion rhifyddol, ac yna arwydd yn gyffredinol, gw. GPC 242. Yn yr esiampl arall gan DG (72.3) mae'r syniad o gyfrif yn berthnasol. Yma yng nghyd-destun barddoniaeth efallai mai llythrennau a feddylir.

152. er   Ffurf y llawysgrif yw yr, a gellid dehongli honno fel i'r, fel y gwnaeth Owen. Ond mae 'er Duw' yn fformiwla gyffredin wrth erchi.

158.   Darllenodd Owen '[ei]lun', ond mae'r gair yn aneglur, a'r tebyg yw ei fod yn unsill.

159. gŵyl   Mae ffurf y llawysgrif yn amwys, a chymerodd Owen mai gwŷl (= 'gwêl') sydd yma. Byddai gwyliau a ffeiriau yn rhan fawr o fywyd y dref farchnad. Ond dylid ystyried y posibilrwydd mai lluosog dwfr yw deifr yma, fel yn 165 isod. Os felly, ansoddair yw gŵyl yn yr ystyr 'tirion'.

162. plas   gw. nodyn 28 uchod.

163.   Ceir tair llythyren aneglur rhwng dwfyr a llwybyr yn y llawysgrif. Awgrymodd Owen mai ue yw'r ddwy gyntaf.

165. deifrdaer   Mae'n bosibl mai Deifr, Saeson, yw'r elfen gyntaf, fel yn 43, 50, 109 a 159 uchod (ond gw. nodyn 159). Ond awgryma cyd-destun yr englyn blaenorol a llinell olaf yr englyn hwn mai lluosog dwfr sydd yma, gw. GPC 1105–6.

167. Iuddas   Gan fod darlleniad y llinell yn anghyflawn ni ellir bod yn gwbl sicr mai'r enw priod, sef Jiwdas, sydd yma. Ceir y ffurf hon ar yr enw gan Ruffudd Fychan, GSRh 12.115 a 121.

171. camlas   sef ffrwd y felin a redai i Dywi ar ochr orllewinol y dref, mae'n debyg. Cymh. camlas hyd Deifi 5.5.

178. gwas   Mae'n debyg mai 'gwasanaethwr' yw hwn, gan gyfeirio at y bardd ei hun, ond dylid ystyried y posibilrwydd mai gwas2 (GPC 1591), 'trigfan' sydd yma, sef tref Caerfyrddin.