Yr Eos
DAFYDD AP GWILYM
Madog ap Gruffudd, etifedd y coed,
meistr ar gerdd urddasol, arfogaeth barddoniaeth fwyn,
llwyddiant Mordaf neu Rydderch,
4 plaen saer ar ddysg ac ar [ganu] serch,
mwy crefftus oeddet na neb,
tant safonol [pob] gwaith cywrain.
Daethost ti at Ddafydd
8 ap Gwilym â chân rymus a byrlymus.
A wyt yn cofio o gwbl am ein cyfeillgarwch
a'n cwyn am y llwyn bedw dymunol?
Rhyw dybio yr wyf i Eiddig
12 noethi'r fangre (melltith ar ei ben!)
nid trwy ymladd na lladd na llosgi
ond â'i gaib a'i raw, galar [sydd] oblegid ei drais.
MADOG BENFRAS
Nid oes angen i ti hel meddyliau trist
16 am unrhyw fedwen na choeden [arall] yn y byd
tra byddai Duw yn bendithio'r gelynen.
Ni all [unrhyw] ddyn losgi nac ysbeilio'r goeden hon [o'i dail],
a pha gorwyntoedd bynnag a ddaw,
20 ni bydd yn noeth nac yn llipa nac yn wyw.
DAFYDD AP GWILYM
Yn wir, fe fyddet ti yn cwyno yn ddi-baid
pe digwyddai i ti, byd o arswyd,
yr hyn a ddigwyddodd i mi, llid eithafol [sydd] imi,
24 ergyd [sy'n peri] ofn mawr, gwir ofid [hefyd].
Nid oedd dim yn rhoi mwynhad i mi
na chysur, blys hunanol [a barodd hyn],
nac [un] gainc [arall] ar y fedwen hardd a theg
28 ac eithrio'r eos swynol a hardd a llwyd ei gwedd.
Parodd gwr o'm tiriogaeth
ei herlyn fel y bu iddi ffoi i'th fro di.
Craffa arni os gweli hi,
32 gwehyddes hyderus barddoniaeth mewn caer gadarn.
Cân yn llawen dan y dail
ac o dan orchudd diogel y canghennau salm weddus.
Gwraig ar grwydr, addewid gwiw,
36 pibau soniarus yn y llwyni diarffordd,
cloch offeren y cariadon,
mae ei llais yn fwyn a mirain a hyfryd.
Ffraeth fydd ei chaniad unigryw
40 ar frig y canghennau gwyrddion,
gwraig [sy'n canu yn] gynnar [i ysgogi] cariad, morwyn gelfydd,
un dywyll ei gwedd uwchlaw tyfiant y drain;
chwaer Cuhelyn, creadur hardd a bychan,
44 chwibanogl [sydd] chwe gwaith yn fwy rhugl
na llu [o gantorion eraill], cân [a ddaw] o dannau'r delyn,
pen-campwraig ym Maestran ar bob organ.
Ni adawodd [ar ei hôl] yng Ngwynedd
48 er pan aeth hi (onid gwaeth o lawer yw'n cyflwr?)
un llatai, ni wasanaethai un yn well [na hi],
y lladrones fach a'i chynffon lwyd.
MADOG BENFRAS
Bydded i bob un a'i herlynodd
52 (gwych o beth!) gael ei roi
yn y carchar pren yng Nghoed Eutun;
[felly] y mynnaf [iddo fod] yn dragwyddol.
DAFYDD AP GWILYM
Yn y fro acw, arhosed hyd y mynno,
56 caiff fwrw'r Nadolig.
Dymunol iawn fydd y lle y bydd.
Bydded i Dduw ei noddi, y crwth swynol.