K. marwnad Rydderch ap Ie[ua]n llwyd mab angharad hael
1 Doe klowais mi a geisiais gel
2 dair och ar lethrdir vchel
3 ni feddyliwn gwn ganoch
4 y rhoe fyth wr rhywfath och
5 ni bv in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif kwyn na llef kynnydd
7 na meingorn vwch llethr mangoed
8 na chloch vwch nar och a roed
9 pa dwrwf yw hwn gwn ganoch
10 pefr loes pwy a roes yr och
11 llewylyn orsyddyn serch
12 a roddes honn am rydderch
13 fychan gerllaw i lan lys
14 ffyddfrawd rhydderch ddiffoddfrys
15 och ymlyn oi dyddyn dig
16 galaeth mamaeth am emig
17 och gwr a fai yn awch garu
18 i gar o fawr alar fv
19 ar drydedd och gloch y glynn
20 llef ail aroes llewylyn
21 pan gavwyd saith guddiwyd serch
22 gwin rhoddiad genav rhydderch
23 darfv gwn in dierfir
24 ben deheubarth wen yn wir
25 darfu yr oes dirfawr o fedd
26 darfu dauaru dewredd
27 gorwyn alarch yn gwarchae
28 gorwedd mewn maenfedd y mae
29 nattur boen nid hwyr bedd
30 syth drudfalch na saith droedfedd
31 pregeth ryfedd oedd gweddv
32 dan hyn o dewyrchyn dv
33 gwybodau synhwyrau serch
34 gwmpas rodd gampus rydderch
35 ai giwdawd ddigollwawd gall
36 ai gryf gorff gwyn digrifgall
37 ai gampau chwedl doniav dawn
38 ai lwyddiant ai oleuddawn
39 ai ras gyweithas ieuthydd
40 ai glod och ddyfod i ddydd
41 trwst oedd oer trist ddauarv
42 trigarog o farchog fv
43 trigaredd am symlwedd serch
44 a roddo duw i rydderch
dd: ap Gwilim