K: i fadog benfras i ymofyn yr eos
1 madog ap gruffydd wyddaer
2 medri aur glod mydr arf glaer
3 kynnydd morda a Rydderch
4 kannwy a synnwyr y serch
5 kowirach oeddyd na neb
6 kowirdant y kowirdeb
7 ti a ddeuthost att ddafydd
8 ap gwilym a gwawd rym rydd
9 ai kof oll yn kyfeilliach
10 an kwyn am y bedlwyn bach
11 amau rwyfi i ddiosg
12 heb ymladd heb ladd losg
13 o eiddig oerfel iddaw
14 ai gaib wb ai raib ai raw
15 afraid yt ddala trymfryd
16 am bren na bedwen or byd
17 dra attai dduw y kelyn
18 nis llysg ag nis diysg y dyn
19 ag er a ddel o ddrykin
20 ni bydd na chrwm na chrin
21 ti a gwynyd dioer yn llwyr
22 be darffai byt byd orffwyr
23 a ddarfu ym mae lym lid
24 nod mwy ofn nevd mae ofid
25 nid oedd ym o ddiddanwch
26 na dyhuddiant trachwant trwch
27 na cherdd ar fedwenn wen wiw
28 ond eos loewdlos lwydliw
31 synia arni os gwely
32 ystofwraig mydr gaer hydr hy
33 serchog y kan dann y dail
34 salm wiw is helm o wiail
35 deolwraig ar fynaig fwyn
36 da ffithlen mewn diffeithlwyn
37 kloch aberth y serchogion
38 klaer chweg a theg yw i thon
39 bangaw fydd i hun bengerdd
40 ar flaen y wialen werdd
41 boreuwraig serch ferch firain
42 bur ddu drem vwch burddav drain
43 chwaer kyhelyn befr ddyn bach
44 chwbanogl chwe buanach
45 meistres organau maesdran
46 na chant or kildant y kan
47 ni adewais y ngwynedd
48 er pan aeth ond waethwaeth wedd
49 lladrones bach llwyd ronell
50 llattai ni weddai vn well
51 poed ar ddor y pilori
52 amen fyth o mynna fi
53 y doter gynifer vn
54 ai ditiodd y nghoed evtvn
55 yn y fro tra fynno trig
56 yno deil y nadolig
57 bydd serchokaf ll y bo
58 da gvttorn duw ai gato
dd ap Gwilim